Toglo gwelededd dewislen symudol

Uwch Weithiwr Achos (dyddiad cau: 23/12/24)

£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Llawn amser ac yn barhaol. Mae Opsiynau Tai yn chwilio am Uwch Weithiwr Achos i reoli'r cyngor ar dai rheng flaen a'r gwasanaeth digartrefedd.

Teitl swydd: Uwch Weithiwr Achosr
Rhif Swydd: PL.62976-V1
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Uwch Weithiwr Achos (PL.62976-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 255 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.62976-V1


Dyddiad cau:  11.59pm, 23 Rhagfyr 2024

 

Mwy o wybodaeth
 

 Mae Opsiynau Tai yn gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth tai i gleientiaid sydd mewn angen tai. 

Byddwch yn rhan o'r uwch dîm swyddogion ac yn rhannu cyfrifoldeb am y gwasanaeth dyddiol.  Byddwch yn darparu arweiniad i'r Tîm Gwaith Achos ar geisiadau digartrefedd ac yn rheoli tîm bach.  Byddwch yn gweithio'n agos gyda Gwasanaethau Statudol eraill a phartneriaid allanol i sicrhau bod anghenion cleientiaid yn cael eu diwallu a bod y cymorth priodol ar waith fel bod aelwydydd digartref yn symud i lety eraill yn brydlon a fydd yn cynnwys llety dros dro, â chymorth a pharhaol.  

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Marie Muldoon, Rheolwr Opsiynau Tai. Marie.muldoon@swansea.gov.uk

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Rhagfyr 2024