Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw : Swydd Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu Lefel 2

(dyddiad cau: 23/01/25) (4 pm). Lefel 2 Tâl Gradd 4-6 (Pro Rata) 32.5 awr. (Dros dro i gychwyn).

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw yn chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig i ymuno â thîm gweithgar o fewn yr ysgol. Disgwylir i'r ymgeisydd fod yn llwyr ymroddedig i rannu gweledigaeth ac amcanion yr ysgol a chyfrannu at ethos arbennig yr ysgol hon.

Os oes gyda chi ddiddordeb yn y swydd yma gofynnwn yn garedig i chi gwblhau'r ffurflen gais sydd wedi atodi isod, yn ogystal â llythyr byr yn amlygu eich cryfderau, eich doniau a'ch profiad a'u danfon at 6702235 YGGLlwynderw@Hwbcymru.net

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Disgwylir i'r llythyron cais fod yn y Gymraeg.

Er mwyn derbyn manylion pellach, cysylltwch â'r ysgol drwy ffonio 01792 407130 neu ebostiwch 6702235 YGGLlwynderw@Hwbcymru.net

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : 23.01.25
Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar : 30.01.25

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod a fydd yn dechrau ar: 10.02.25  (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.)

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Uwch y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Rhagfyr 2024