Rheolwr Cytundeb a Phrosiect (dyddiad cau: 14/01/25)
£35,235 i £38,626 y flwyddyn. Mae'r gwasanaeth Rheoli Gwastraff yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig i ymgymryd â rôl Rheolwr Cytundeb a Phrosiect.
Teitl swydd: Rheolwr Cytundeb a Phrosiect
Rhif Swydd: PL.69529
Cyflog: £35,235 to £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Rheolwr Cytundeb a Phrosiect (PL.69529) Disgrifiad swydd (PDF, 250 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.69529
Dyddiad cau: 11.59pm, 14 Ionawr 2025
Mwy o wybodaeth
Dylai ymgeiswyr feddu ar radd berthnasol a/neu brofiad cyfatebol o reoli Cytundeb /prosiect. Mae angen diddordeb brwd mewn rheoli gwastraff. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â chytundeb dysgu yn y gweithle a fydd yn cynnwys gweithio tuag at gymhwyster lefel 4 neu 5 WAMITAB.
Bydd dyletswyddau'n cynnwys cynorthwyo gyda cheisiadau grant, rheoli prosiectau, caffael, rheoli perfformiad, rheoli contractau, a pharatoi adroddiadau. Bydd y rôl hefyd yn cynorthwyo gyda rheoli newid ar draws ardal y gwasanaeth.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol