Toglo gwelededd dewislen symudol

Prentis Blymwr (dyddiad cau: 02/03/25)

£7.55 yr awr (yn y flwyddyn gyntaf). Mae Adran Gwasanaethau Adeiladau Cyngor Abertawe yn gyfrifol am gynnal a chadw adeiladau cyhoeddus y Cyngor a'r stoc dai. Rydym ar hyn o bryd yn awyddus i recriwtio 6 prentis ar gyfer ein rhaglen ym mis Medi 2025.

Teitl y swydd: Prentis Blymwr
Rhif y swydd: PL.73603
Cyflog: £7.55 yr awr (yn y flwyddyn gyntaf)
Disgrifiad swydd:  Prentis Blymwr (PL.73603) Disgrifiad swydd (PDF, 230 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein yn awr am y swydd PL.73603

Dyddiad cau: 11.59pm, 2 Mawrth 2025

Mwy o wybodaeth 

Bydd cyfleoedd prentisiaeth ar gael yn 2025 ar gyfer plymwaith, gwaith trydan, plastro, gwaith saer a gosod briciau.  Bydd y rhaglen brentisiaeth yn para hyd at 4 blynedd.
 
Y Broses Recriwtio: 
Ffurflen gais - Caiff yr hysbyseb ei ddangos o 10 Chwefror 2025 i 2 Mawrth 2025 
Gwahoddiad ar gyfer asesiad - mis Ebrill 2025 
Rhestr fer ar gyfer cyfweliad dros TEAMS/Cyfweliad dros y ffôn - mis Ebrill/Mai 2025 
Rhestr fer ar gyfer cyfweliad wyneb yn wyneb - mis Ebrill/Mai 2025 
Recriwtio ymgeiswyr llwyddiannus - mis Mehefin/Gorffennaf 2025 
 
** ANFONIR YR HOLL OHEBIAETH MEWN PERTHYNAS Â'R BROSES YMGEISIO DRWY E-BOST** 
 
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn fedrus, yn drefnus, yn awyddus i ddysgu ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a chyflwyno gwych.  
 
Rhowch sylw arbennig i'r gofynion ar gyfer cyflwyno cais. (wedi'u cadarnhau neu wedi'u rhagweld). Ni fyddwn yn prosesu unrhyw geisiadau nad ydynt yn bodloni'r gofynion cyflwyno cais a ddarparwyd.  
 
**SYLWER MAI DIM OND FFURFLENNI CAIS WEDI'U CWBLHAU'N LLAWN GAIFF EU CYNNWYS AR Y RHESTR FER I GAM PROFI'R BROSES RECRIWTIO** 
 
Gofynnir i ymgeiswyr wneud cais am UN grefft yn unig a dyfynnu'r cyfeirnod ar gyfer y grefft honno ar y ffurflen gais.  Nid oes cyfyngiadau oed i fod yn brentis ac rydym yn croesawu'ch cais, p'un a ydych yn rhannol gymwys/hyfforddedig neu heb brofiad na gwybodaeth flaenorol. 
 
Gallwch wneud cais drwy un o'r canlynol: 
abertawe.gov.uk/swyddi 
Canolfan Byd Gwaith 
Gyrfacymru.com 
 
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch Ayla Barringer yn cbpsapprenticerecruitment@abertawe.gov.uk 

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Chwefror 2025