Prentis Blastrwr x2 (dyddiad cau: 02/03/25)
£7.55 yr awr (yn y flwyddyn gyntaf). Mae Adran Gwasanaethau Adeiladau Cyngor Abertawe yn gyfrifol am gynnal a chadw adeiladau cyhoeddus y Cyngor a'r stoc dai. Rydym ar hyn o bryd yn awyddus i recriwtio 6 prentis ar gyfer ein rhaglen ym mis Medi 2025.
Teitl y swydd: Prentis Blastrwr x2
Rhif y swydd: PL.73607
Cyflog: £7.55 yr awr (yn y flwyddyn gyntaf)
Disgrifiad swydd:
Prentis Blastrwr (PL.73607) Disgrifiad swydd (PDF, 403 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein yn awr am y swydd PL.73607
Dyddiad cau: 11.59pm, 2 Mawrth 2025
Mwy o wybodaeth
Bydd cyfleoedd prentisiaeth ar gael yn 2025 ar gyfer plymwaith, gwaith trydan, plastro, gwaith saer a gosod briciau. Bydd y rhaglen brentisiaeth yn para hyd at 4 blynedd.
Y Broses Recriwtio:
Ffurflen gais - Caiff yr hysbyseb ei ddangos o 10 Chwefror 2025 i 2 Mawrth 2025
Gwahoddiad ar gyfer asesiad - mis Ebrill 2025
Rhestr fer ar gyfer cyfweliad dros TEAMS/Cyfweliad dros y ffôn - mis Ebrill/Mai 2025
Rhestr fer ar gyfer cyfweliad wyneb yn wyneb - mis Ebrill/Mai 2025
Recriwtio ymgeiswyr llwyddiannus - mis Mehefin/Gorffennaf 2025
**ANFONIR YR HOLL OHEBIAETH MEWN PERTHYNAS Â'R BROSES YMGEISIO DRWY E-BOST**
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn fedrus, yn drefnus, yn awyddus i ddysgu ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a chyflwyno gwych.
Rhowch sylw arbennig i'r gofynion ar gyfer cyflwyno cais. (wedi'u cadarnhau neu wedi'u rhagweld). Ni fyddwn yn prosesu unrhyw geisiadau nad ydynt yn bodloni'r gofynion cyflwyno cais a ddarparwyd.
**SYLWER MAI DIM OND FFURFLENNI CAIS WEDI'U CWBLHAU'N LLAWN GAIFF EU CYNNWYS AR Y RHESTR FER I GAM PROFI'R BROSES RECRIWTIO **
Gofynnir i ymgeiswyr wneud cais am UN grefft yn unig a dyfynnu'r cyfeirnod ar gyfer y grefft honno ar y ffurflen gais. Nid oes cyfyngiadau oed i fod yn brentis ac rydym yn croesawu'ch cais, p'un a ydych yn rhannol gymwys/hyfforddedig neu heb brofiad na gwybodaeth flaenorol.
Gallwch wneud cais drwy un o'r canlynol:
abertawe.gov.uk/swyddi
Canolfan Byd Gwaith
Gyrfacymru.com
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch Ayla Barringer yn cbpsapprenticerecruitment@abertawe.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol