Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Hafod: Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

(Dyddiad cau: 16/01/25 am 12pm). Lefel 2 Gradd 4 (PT 5-6) £24,790 to £25,183 pro rata y flwyddyn 39 wythnos - 27.5 awr yr wythnos. Sylwch fod y cyflog hwn yn amodol ar addasiad amser tymor yn unig os yw dyddiad penodi ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd.

Ysgol Gynradd Hafod
Heol Odo, Yr Hafod
Abertawe
SA1 2LT

Ffôn: 01792 461356

Pennaeth: Timm Dadds

Mae Ysgol Gynradd yr Hafod wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, hapus ac anogol lle mae pob plentyn yn ffynnu. Rydym yn darparu cwricwlwm perthnasol, atyniadol a chynhwysol sy'n ysgogi chwilfrydedd naturiol pob plentyn ac yn ymateb i'w anghenion unigol.  Rydym yn mynd ati'n effeithiol i hwyluso caffael gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth i rymuso ein plant i ddod yn ddysgwyr llwyddiannus drwy gydol oes. 

Rydym yn chwilio am unigolyn rhagorol sy'n awyddus i ddatblygu o fewn rôl y Cynorthwyydd Addysgu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm.
  • meddu ar ddisgwyliadau uchel ar gyfer y plant a hwy eu hunain.
  • meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac wedi ymrwymo i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'r plant, rhieni a staff.
  • cefnogi dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.
  • annog, cymell ac ennyn diddordeb plant ym mhob maes dysgu.
  • barod i gyfrannu at fywyd ehangach cymuned yr ysgol.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg i Lefel 2 neu uwch yn ddymunol.

Gallwn ninnau gynnig:

  • cyfle a chwmpas ardderchog i chi ddatblygu eich sgiliau eich hun ac i gael effaith gadarnhaol ar fywydau a phrofiadau dysgu'r plant yn ein gofal.
  • y cyfle i weithio fel rhan o dîm ymroddedig, cyfeillgar a chefnogol iawn. 

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu lles plant ac yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd angen Datgeliad GDG Manylach ar gyfer y swydd hon. Gallai cymwysterau gofal plant a meddu ar sgiliau TGCh effeithiol i wella dysgu fod yn fanteisiol. 

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o wefan Dinas a Sir Abertawe yn www.abertawe.gov.uk

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Disgriad swydd (PDF, 115 KB)

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Dyddiad cau: 16/01/25 (12.00pm)
Llunio rhestr fer: 17/01/25
Dyddiad Cyfweliad: Yn yr wythnos yn dechrau 20/01/25
Swydd yn dechrau: 17/02/25 neu cyn gynted â phosibl

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi eu cwblhau at y Pennaeth, Mr Timm Dadds ar e-bost yr ysgol : hafod.primary.school@swansea-edunet.gov.uk

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Rhagfyr 2024