Toglo gwelededd dewislen symudol

Prif Gyfrifydd - Cyfalaf (dyddiad cau: 31/12/24)

£44,711 - £48,710 y flwyddyn. Llawn amser ac yn barhaol. Rydym yn awyddus i recriwtio Prif Gyfrifydd i ddarparu cyngor a chymorth cyfrifyddu ac ariannol ar bob agwedd ar gyllidebau cyfalaf, gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a meysydd cyfrifyddu cyfalaf technegol eraill. Yn ogystal â'ch cyflog, byddwch yn cael eich gwobrwyo â chynllun pensiwn rhagorol a buddion eraill fel gweithio hyblyg.

Teitl swydd: Prif Gyfrifydd - Capital
Rhif Swydd: FN.66175
Cyflog: £44,711 - £48,710 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Prif Gyfrifydd –Cyfalaf (FN.66175) Disgrifiad swydd (PDF, 271 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran:
Cyllid

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd FN.66175


Dyddiad cau: 11.59pm, 31 Rhagfyr 2024

 

Mwy o wybodaeth


Gwahoddir ceisiadau gan Gyfrifydd Cymwys CCAB deinamig a blaengar i ddarparu cymorth ariannol a chyfrifyddu ar draws y Cyngor ar bob agwedd ar gyfrifeg gyfalaf.

Yn bennaf, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gydlynu'r wybodaeth ariannol ar bennu cyllideb gyfalaf, monitro ac adrodd cyllideb gyfalaf, gwariant cyfalaf a chyllid a datganiad diwedd blwyddyn o gau cyfrifon ar gyfer y meysydd hynny.

Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad a/neu wybodaeth o gyfrifeg dechnegol yr Awdurdod Lleol yn benodol mewn perthynas â chyfalaf.  Rhaid i chi fod â dawn ar gyfer deall a dehongli newidiadau mewn safonau cyfrifeg ac i'r cod ymarfer a argymhellir.  Mae'n rhaid i chi fod yn unigolyn trefnus ac addasadwy sy'n gallu gweithio dan bwysau ac i derfynau amser llym er mwyn bodloni amcanion tîm ac amserlenni a thargedau statudol y cyngor/statudol.

Byddai ceisiadau'n cael eu hystyried gan gyfrifwyr newydd gymhwyso a'r rhai sy'n aros am ganlyniadau terfynol.
 

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Rhagfyr 2024