Cyfreithiwr - Ymgyfreitha (dyddiad cau: 22/01/25)
£39,513 - £43,693 y flwyddyn. Mae Cyngor Abertawe yn ceisio recriwtio Cyfreithiwr a fydd yn gweithio gyda'r Cyngor yn nhîm cyfreithiol yr Ymgyfreitha.
Teitl swydd: Cyfreithiwr - Ymgyfreitha
Rhif Swydd: CS.0185-V2
Cyflog: £39,513 - £43,693 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Cyfreithiwr (CS.0185-V2 ) Disgrifiad swydd (PDF, 253 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.0185-V2
Dyddiad cau: 11.59pm, 22 Ionawr 2025
Mwy o wybodaeth
Gwahoddir ceisiadau gan Gyfreithiwr, Bargyfreithiwr neu CILEX brwdfrydig, arloesol, cymwys a phrofiadol i ddelio ag amrywiaeth o faterion sy'n berthnasol i'r maes pwnc. Bydd disgwyl i chi gynnal a rheoli eich llwyth achos eich hun. Rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol ag aelodau, uwch swyddogion ac asiantaethau allanol. Mae profiad o gynghori ar ymgyfreitha sifil cyffredinol, ymgyfreitha troseddol, cyflogaeth ddadleuol, anghydfodau cytundebol neu faterion eiddo yn ddymunol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol