Toglo gwelededd dewislen symudol

Adran 12 Meddygon

Cymeradwy adran 12 meddygon sydd eu hangen ar gyfer Tîm DoLS. Mae Cyngor Abertawe yn chwilio am feddygon adran 12 cymeradwy i gwblhau asesiadau ar gyfer y Tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Byddech yn gweithio ar sail hunangyflogedig ac i gwblhau Ffurflen 3a a 4 rydym yn talu £180 (mae hyn hefyd yn cynnwys milltiroedd).

Teitl swydd: Adran 12 Meddygon
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gwybodaeth bellach

Bydd angen sgiliau rhyngbersonol ac ysgrifennu adroddiadau rhagorol.

Bydd angen i chi gael mynediad at liniadur a ffôn. 

Byddwch yn gallu gweithio'n hyblyg a chwblhau cymaint o asesiadau ag sy'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau eraill bob wythnos. Yn gyfnewid am hyn, bydd gennych fynediad at ddiweddariadau cyfreithiol a hyfforddiant mewnol a bydd tîm DoLS profiadol a gwybodus yn eich cefnogi. 

Bydd angen i feddygon gael eu cymeradwyo o dan adran 12 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Rhaid i feddygon Adran 12 hefyd gael eu hyswirio mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaethau a allai godi mewn cysylltiad â chyflawni'r rôl a chael tystysgrif ddilys gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd dilys.  

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch DoLS@swansea.gov.uk neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Sian Rowlands - 01792 636142

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I  https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Ionawr 2025