Swyddog Cyllid, Grantiau a Lleoliad (dyddiad cau: 31/01/25)
£31,067 - £34,314 y flwyddyn. Llawn amser ac yn barhaol. Mae'r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant yn awyddus i benodi gweithiwr proffesiynol ymroddedig i gefnogi gyda phob agwedd ar gyllid, cyllidebau, caffael a monitro data o fewn y tîm.
Teitl swydd: Swyddog Cyllid, Grantiau a Lleoliad
Rhif Swydd: ED.69364-V1
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Swyddog Cyllid, Grantiau a Lleoliad (ED.69364-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 273 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.69364-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 31 Ionawr 2025
Mwy o wybodaeth
Cyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol ymroddedig sydd â gwybodaeth a phrofiad o gyllid, cyllidebu, caffael a monitro data i ymuno â'r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant. Mae hon yn rôl allweddol o fewn yr adran addysg, gyda chyfrifoldebau yn cynnwys gosod cyllidebau, cau cyfrifon, cyllidebau gweithwyr, monitro cyllidebau, rheoli grantiau, prosesu anfonebau, a phrynu nwyddau a gwasanaethau.
Mae'r ALNIT yn dîm prysur iawn, a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio i derfynau amser tynn. Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio ei fenter ei hun ac yn rheoli ei lwyth gwaith yn unol â hynny. Er bod y swydd yn sefyll ar ei phen ei hun yn bennaf, mae'n rhan o dîm ehangach o weithwyr proffesiynol gan gynnwys gweithwyr achos ADY a chydlynwyr dynodedig, seicolegwyr addysgol ac athrawon arbenigol.
Bydd ymgeiswyr wedi gweithio mewn amgylchedd cyllid yn y sector cyhoeddus ac yn meddu ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o gyllidebau a chyllid a bydd ganddynt ddull dadansoddol sy'n canolbwyntio ar atebion.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Fraser Newbury, Uwch Arweinydd ADY: fraser.newbury@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol