Rheolwr Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (dyddiad cau: 29/01/25)
£44,711 - £48,710 y flwyddyn. Mae'r Gwasanaeth Tai yn chwilio am unigolyn rhagweithiol a brwdfrydig i arwain a rheoli ei Wasanaeth Byw'n Annibynnol ar gyfer pobl hŷn.
Teitl swydd: Rheolwr Gwasanaethau Byw'n Annibynnol
Rhif Swydd: PL.9133-V1
Cyflog: £44,711 - £48,710 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Rheolwr Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (PL.9133-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 235 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.9133-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 29 Ionawr 2025
Mwy o wybodaeth
Bydd gofyn i chi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y Gwasanaeth Byw'n Annibynnol yn cael ei reoli, ei ddarparu a'i ddatblygu'n effeithiol ar lefel weithredol a strategol.
Dylai ymgeiswyr fod â phrofiad perthnasol o weithio yn y sector tai cymdeithasol a gweithio ar lefel oruchwylio neu reoli.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe, mae egwyddor "Diogelu yw Busnes i Bawb," ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol