Toglo gwelededd dewislen symudol

Peiriannydd Plymwr/Gwresogi (dyddiad cau: 30/01/25)

£31,067 - £34,314 y flwyddyn. Mae Adran Fecanyddol Gwasanaethau Adeiladu Cyngor Abertawe yn chwilio am Beiriannydd Plymio/Gwresogi medrus ac ymroddedig i ddod yn rhan annatod o'n tîm deinamig.

Teitl swydd: Peiriannydd Plymio/Gwresogi
Rhif swydd: PL.66300-V1
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Peiriannydd Gwresogi - Plymwr (PL.66300-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 221 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.66300-V1


Dyddiad cau: 11.59pm, 30 Ionawr 2025


Mwy o wybodaeth

Fel Peiriannydd Plymwr/Gwresogi byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal a gwella gwasanaethau hanfodol o fewn eiddo'r cyngor. Byddwch yn gyfrifol am osod, cynnal a chadw ac atgyweirio systemau plymio a gwresogi, gan sicrhau'r safonau uchaf o ddiogelwch, effeithlonrwydd a boddhad cwsmeriaid.

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i weithio ar amrywiaeth o brosiectau, o waith cynnal a chadw arferol i eiddo newydd a fydd yn cyfrannu at gysur a lles ein cymunedau.

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol brwdfrydig sy'n ffynnu mewn amgylchedd cyflym ac sydd ag ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth eithriadol. Dylech fod ag angerdd am systemau mecanyddol, sgiliau datrys problemau rhagorol, ac ymagwedd ragweithiol tuag at waith tîm.        

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe, mae egwyddor "Diogelu yw Busnes i Bawb," ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Ionawr 2025