Uwch Swyddog Gwasanaethau Etholiadol (dyddiad cau: 31/01/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn hynod drefnus, hyblyg gyda phrofiad mewn gwasanaethau etholiadol. Byddai'r cyfle cyffrous hwn yn gweddu i weinyddwr etholiadol sydd â sawl blwyddyn o brofiad yn y gwasanaethau etholiadol.
Teitl swydd: Uwch Swyddog Gwasanaethau Etholiadol
Rhif Swydd: CS.0017-V1
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Uwch Swyddog Gwasanaethau Etholiadol (CS.0017-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 252 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.0017-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 31 Ionawr 2025
Mwy o wybodaeth
Yn y swydd bydd gofyn i chi ddangos gwybodaeth o bob agwedd ar gofrestru etholiadol, etholiadau a refferenda. Rhaid i chi allu gweithio'n dda dan bwysau, dangos sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol gyda lefel uchel o gywirdeb. Bydd gofyn i chi ddarparu cefnogaeth i Arweinydd y Tîm Gwasanaethau Etholiadol a chwarae rhan allweddol wrth gynyddu perfformiad gweithredol a datblygu eraill yn y tîm.
Mae sgiliau cyfathrebu a TG da yn hanfodol. Gwybodaeth am feddalwedd Idox yn ddymunol ond nid yn hanfodol gan y rhoddir hyfforddiant llawn.
Bydd gofyn i chi ddangos gwybodaeth neu ddealltwriaeth weithredol o bob agwedd ar gofrestru etholiadol, IER, etholiadau a refferenda. Gallu gweithio dan bwysau, blaenoriaethu'ch llwyth gwaith eich hun a gweithio gydag eraill i gyflawni holl swyddogaethau amgylchedd sy'n newid mewn gwasanaethau etholiadol.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar Dystysgrif Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol neu fod yn barod i ymgymryd â'r cymhwyster o fewn amserlen y cytunwyd arni. Mae'n rhaid i chi fod yn barod i weithio oriau estynedig yn ystod yr etholiad prysur a'r cyfnod cofrestru yn aml ar fyr rybudd, gan gynnwys gyda'r nos, penwythnosau, a Gwyliau Banc.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol