Toglo gwelededd dewislen symudol

Diwygiadau a diweddariadau i Bolisi ac Atodiadau 2020

Newidiadau i'r brif ddogfen bolisi

  • Diweddaru cyffredinol i ddyddiadau dogfennau a'r dudalen gynnwys i gynnwys atodiadau A i H a phob cyfeiriad.
  • Cyflwyniad. Diweddariadau cyffredinol i ddyddiadau ac ystadegau tai amlfeddiannaeth
  • Diweddaru ystadegau gorfodi ym mharagraff 1.10
  • Diwygio paragraffau 3.1 i 3.7 i gynnwys ystadegau wedi'u diweddaru
  • Diwygio paragraff 4.1 gan nad yw Strategaeth Tai Lleol Abertawe wedi'i diweddaru eto, felly nid oes modd cyfeirio ati.
  • Diweddaru paragraff 4.5 i gynnwys yr asesiad newydd
  • Diweddaru paragraff 6.2 a 6.3 i gynnwys yr ystadegau newydd
  • Dileu paragraff 6.5 a 6.6 gan nad yw St Thomas yn ardal newydd ar gyfer trwyddedu ychwanegol mwyach
  • Diwygio paragraff 6.7 i gynnwys ystadegau cwynion wedi'u diweddaru
  • Diwygio paragraff 6.10 i gynnwys dyddiadau newydd ac ardal Y Glannau.
  • Diwygio paragraff 7.4 i gynnwys rhoi trwydded am gyfnod llai o amser os oes gan y Cyngor bryderon penodol mewn perthynas â'r HMO ei hun, neu'r ffordd y mae'n cael ei reoli, ac i gynnwys pam nad oes cais wedi'i wneud eto am ganiatâd cynllunio i ddefnyddio'r eiddo fel HMO.
  • Ychwanegu paragraff 7.5 i wneud cyfeiriad penodol at amrywio trwyddedau, gan gynnwys lleihau cyfnod y drwydded, nifer y meddianwyr a ganiateir neu'r safonau sy'n gymwys. Gall swyddogion wneud hyn os ydynt yn ystyried y bu newid mewn amgylchiadau ers yr adeg y caniatawyd y drwydded. Gall hyn gynnwys os oes pryderon penodol mewn perthynas â'r HMO ei hun, yr amwynderau neu reolaeth yr HMO, ond nid yw'n gyfyngedig i hyn.

Newidiadau i Atodiad A. Safonau Amwynder.

  • Diweddaru manylion cyswllt tîm a dyddiad yn unig.

Newidiadau i Atodiad B. Ffordd o Ddianc - Rhagofalon Tân.

  • Dim newid.

Newidiadau i Atodiad C. Meini prawf ar gyfer person addas a phriodol.

  • Dim newid.

Newidiadau i Atodiad D. Amodau trwydded.

  • Amod newydd 13.  Sy'n nodi bod yn rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr holl osodion, ffitiadau a chyfarpar a ddarperir i'w defnyddio gan y meddianwyr yn gweithio'n iawn ac yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da, diogel a glân.
  • Amod newydd 19. Ychwanegu amod penodol sy'n nodi bod yn rhaid inswleiddio lleoedd gwag mewn toeon/croglofftydd, caeadau croglofftydd a thanciau dŵr poeth i'r gwerthoedd gofynnol o ran effeithlonrwydd ynni, yn unol â gofynion Rheoliadau Adeiladu cyfredol fel y'u nodir yn y dogfennau cymeradwy.
  • Amod 18 (bellach yn 20).  Wedi'i addasu i gynnwys  system larwm a chanfod tân, gan gynnwys system atal tân os oes un wedi'i gosod.
  • Estyn amod 19 (bellach yn 21), yn unol â Rhan 6 BS5839 ac argymhellion y gosodwr a'r gwneuthurwr.
  • Newid amod 27 (bellach yn 29) gan fod yn rhaid darparu larymau CO ym mhob ystafell bellach, nid ystafelloedd y gellir byw ynddynt yn unig, lle ceir offer llosgi tanwydd.
  • Diweddaru amod 29 (bellach yn 31) i nodi contract meddiannaeth yn hytrach na thenantiaeth yn unol â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru).
  • Adolygu amodau 35 a 36 sy'n ymwneud â threfniadau gwastraff i fod yn fwy penodol ac i ofyn am fwy o gyfleusterau storio ar gyfer gwastraff wedi'i ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu.  Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y darperir digon o gyfleusterau storio allanol addas sy'n ddiogel rhag plâu ar gyfer gwastraff cartref ac ailgylchu sy'n aros i gael eu gwaredu. Lle bo'n rhesymol ymarferol, dylai'r rhain fod yn agos i'r man casglu ar y stryd ac os yw hwn o flaen yr eiddo, dylid eu hamgáu mewn modd addas. Rhaid darparu cyfleusterau'n unol â'r gofynion storio gofynnol a nodir yn y tabl isod. Rhaid darparu bin gwastraff bwyd ymyl y ffordd mwy yn yr ardal storio allanol er mwyn storio sachau bwyd llawn o'r blwch cegin
Nifer y preswylwyrGwastraff na ellir ei ailgylchuAilgylchuCadi gwastraff bwyd
1-51 x 240 litr1 x 240 litr1 x 25 litr
6-81 x 240 litr2 x 240 litr2 x 25 litr
9-102 x 240 litr2 x 240 litr3 x 25 litr
11 +Dylid cael cyngor penodol er mwyn pennu gofynion

Newidiadau i Atodiad E, map o adran etholiadol Uplands.

  • Map ward wedi'i ddiweddaru

Newidiadau i Atodiad F, map o adran etholiadol Y Castell.

  • Map ward wedi'i ddiweddaru

Newidiadau i Atodiad G, map o adran etholiadol St Thomas.

  • Map ward wedi'i ddiweddaru

Newidiadau i Atodiad H, map o adran etholiadol y Glannau.

  • Map ward wedi'i ddiweddaru
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Ionawr 2025