Polisi Trwyddedu HMO 2025
Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn adolygu ei Bolisi Trwyddedu HMO gyda'r bwriad o fabwysiadu polisi newydd ar gyfer 2025. Byddai hyn yn cynnwys adnewyddu'r cynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol ar gyfer wardiau'r Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau.
Gallwch ddarllen y polisi drafft a'r atodiadau yn yr adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen hon. Cynhwysir newidiadau o'r polisi presennol a luniwyd yn 2020 hefyd.
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 4 Ebrill 2025 a chroesawn eich sylwadau arno.
E-bostiwch eich sylwadau i ymgynghorihmo@abertawe.gov.uk neu drwy ysgrifennu i'r Is-adran Llygredd a 'r Sector Tai Preifat, Cyfarwyddiaeth Lleoedd, Dinas a Sir Abertawe, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Adroddir am y polisi hwn i'r Cyngor ar ddechrau 2025. Tan hynny, bydd y polisi, yr atodiadau a'r ffïoedd presennol yn berthnasol. Gallwch weld y manylion hynny ar ein tudalen Trwyddedu HMO
Caiff crynodeb o'r sylwadau a dderbynnir eu cynnwys yn yr adroddiad i'r cyngor. Ni chaiff ymatebwyr unigol eu henwi.

Tai Amlfeddiannaeth (HMO) Polisi Trwyddedu 2025 (PDF)

Atodiad A - Safonau Amwynderau 2024 (PDF)

Atodiad B – Ffordd o Ddianc, Rhagofalon Tân (PDF)

Atodiad C Meini Prawf Addas a Phriodol (PDF)

Atodiad Ch Amodau Trwydded (PDF)


Atodiad F - Map Y Castell (PDF)

Atodiad G - Map St Thomas (PDF)
