Toglo gwelededd dewislen symudol

Prif Seicolegydd Addysg (dyddiad cau: 07/02/25)

£62,540 - £69,010 (ynghyd â 3 phwynt SPA yn amodol ar gymhwysedd). Mae Cyngor Abertawe'n hyrwyddo dull gwirioneddol gynhwysol o ddysgu er mwyn cyflawni ein nod o ddarparu Addysg Ragorol i Bawb trwy weithio gyda'n gilydd.

Teitl swydd: Prif Seicolegydd Addysg
Rhif Swydd: ED.68263
Cyflog: £62,540 - £69,010 (ynghyd â 3 phwynt SPA yn amodol ar gymhwysedd)
Disgrifiad swydd:  Prif Seicolegydd Addysg (ED.68263) Disgrifiad swydd (PDF, 222 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.68263


Dyddiad cau: 11.59pm, 7 Chwefror 2025

Mwy o wybodaeth

Mae rôl Prif Seicolegydd Addysg yn hanfodol i gyflawni'r nod hwn ac rydym yn chwilio am unigolyn profiadol, cydweithredol, blaengar i ymuno â ni. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol medrus wneud gwir wahaniaeth a thrwy arwain ein gwasanaeth cynyddol o 12 EP (10.5fte) yn ogystal ag EPau cynorthwyol.

Mae'r gwasanaeth yn gwneud cyfraniad mawr at gefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed ac mae'n ymwneud fwyfwy â gwella ysgolion strategol a gwaith amlasiantaethol.

Byddwch yn gweithio yn Abertawe, dinas arloesol ar lan y dŵr yng nghanol Dinas-ranbarth ehangach Bae Abertawe. O olygfeydd arfordirol trawiadol i barciau tawel, o'i sîn ddiwylliannol ffyniannus i'r gorau o fywyd modern yn ail ddinas Cymru.

Mae Abertawe yn prysur ddod yn un o'r lleoedd mwyaf poblogaidd i fyw yn y DU. Gyda phoblogaeth o tua 250,000 mae Abertawe'n ddinas fywiog a modern, sy'n cynnig ffordd o fyw drefol wych ochr yn ochr ag arfordir a thraethau hardd.

Gall y lwfans adleoli fod yn bosibl yn dibynnu ar amgylchiadau. 

I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â: Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr sy'n Agored i Niwed kate.phillips2@swansea.gov.uk) neu Huw Beynon (Uwch huw.beynon@swansea.gov.uk Arweiniol ADY)

Yng Nghyngor Abertawe, mae egwyddor "Diogelu yw Busnes i Bawb," ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ionawr 2025