Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth (dyddiad cau: 03/02/25)

£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Cyllid Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i weithio fel swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth sy'n cwmpasu ardal Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i ddechrau ar sail llawn amser, cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026.

Teitl swydd: Swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth
Rhif swydd: SS.66757-V2
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swyddSwyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth (SS.66757-V2) Disgrifiad swydd (PDF, 265 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.66757-V2


Dyddiad cau: 11.59pm, 3 Chwefror 2025


Mwy o wybodaeth

Fel Swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth, bydd gofyn i chi ddarparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyfer rheoli cyllid y Gyfarwyddiaeth yn strategol a rheoli amrywiaeth o becynnau gwaith fel rhan o'r Tîm Cyllid Comisiynu ac Adnoddau. Yn ogystal, byddech yn gyfrifol am reoli a datblygu llinell aelodau o'r tîm cyllid.

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol medrus a brwdfrydig sy'n ymroddedig iawn ac yn hunan-gymhellol. Mae'r gwasanaeth y byddwch yn gweithio ynddo yn amgylchedd prysur a heriol ond gwerth chweil i weithio ynddo.  

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau ariannol/rhifiadol rhagorol ac yn ddelfrydol meddu ar gymhwyster cyfrifeg/cyllid.  Mae meddu ar sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno cryf a sgiliau dadansoddol datblygedig iawn yn hanfodol.  Ochr yn ochr â dangos gallu i weithio'n annibynnol ac yn yr un mor effeithiol fel rhan o dîm ehangach.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am y swydd hon neu os hoffech drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Joanne Hooper, Arweinydd Tîm Cyllid a Datblygu Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar 01792 636000.

        

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ionawr 2025