Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweinydd Tîm - Hybu Gwastraff ac Ailgylchu Masnachol (dyddiad cau: 05/03/25)

£39,513 - £43,693 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous newydd wedi codi gyda Chyngor Abertawe sy'n ceisio penodi unigolyn sy'n frwdfrydig dros reoli gwastraff. Mae'r rôl yn cynnwys goruchwylio'r timau Gwastraff Masnachol a Hyrwyddo Ailgylchu. Mae gan Abertawe un o'r gweithrediadau mwyaf effeithlon a'r perfformiad ailgylchu uchaf ledled Cymru ac mae'r rôl hon yn allweddol i gynnal ac adeiladu ar y llwyddiant hwn.

Teitl swydd: Arweinydd Tîm - Hybu Gwastraff Masnachol ac Ailgylchu
Rhif Swydd: PL.0627-V4 
Cyflog: £39,513 - £43,693 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Arweinydd Tîm Hybu Gwastraff Masnachol ac Ailgylchu (PL.0627-V4) Disgrifiad swydd (PDF, 225 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0627-V4


Dyddiad cau: 11.59pm, 5 Mawrth 2025


Mwy o wybodaeth

Mae'r gwasanaeth Rheoli Gwastraff yn darparu casgliadau gwastraff mewnol ar gyfer dros 110,000 o eiddo domestig a chyfran sylweddol o fusnesau'r ardal.  Mae'r Gwasanaeth hefyd yn rheoli pum Canolfan Ailgylchu a gorsaf drosglwyddo sy'n prosesu, swmpio a throsglwyddo'r holl wastraff a gesglir/derbyniwyd.

Mae'r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol yn un o'r rhai mwyaf effeithlon a pherfformio uchaf yng Nghymru, ac mae'r rôl newydd hon yn hanfodol i gynnal ac adeiladu ar y sylfaen hon.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio ac yn cydlynu cwsmeriaid gwastraff masnachol a'u casgliadau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfrifol am ddylunio a gweithredu cynlluniau hyrwyddo ar gyfer casgliadau ailgylchu domestig.

Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad ymarferol sylweddol mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid a rheoli newid yn effeithiol wrth i'r Gwasanaeth geisio gwella ei effeithlonrwydd, a'i berfformiad ailgylchu, tra'n lleihau ei ôl troed carbon.  

Mae'r rhinweddau allweddol ar gyfer y swydd hon hefyd yn cynnwys:

  • Sgiliau adeiladu perthynas a chyfathrebu ardderchog
  • Gwybodaeth dda o ddeddfwriaeth a chanllawiau gwastraff Llywodraeth Cymru, a mentrau economi gylchol sydd ar ddod, a
  • Meddwl arloesol ac agwedd gallu gwneud.

Gan adrodd i'r Arweinydd Grŵp Rheoli Gwastraff, ac fel rhan o'r Tîm Arweinyddiaeth Gwastraff sy'n ymwneud â Gweithrediadau, Contract a Chaffael, Hyrwyddo Ailgylchu a Gwastraff Masnachol, Gorfodi, a Chyllid a Chymorth Busnes, mae'r gallu i weithio fel rhan o dîm yr un mor bwysig â gallu gweithio'n annibynnol hefyd.

Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn anelu at gael gweithlu sy'n cynrychioli'r gymdeithas ehangach yr ydym yn ei gwasanaethu. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr o ddewis. Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a lles ac yn anelu at greu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac ymdeimlad o berthyn

Wrth wneud cais am y swydd, sicrhewch eich bod yn dangos sut mae eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn bodloni'r gofynion a nodir yn y Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person. Os hoffech drafod y rôl, gallwch gysylltu â Matthew Perkins, Arweinydd Grŵp a rheolwr recriwtio drwy: matthew.perkins@swansea.gov.uk
        

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe, mae egwyddor "Diogelu yw Busnes i Bawb," ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Chwefror 2025