Toglo gwelededd dewislen symudol

Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau (dyddiad cau: 03/03/25)

Pennaeth Gwasanaeth band 3 - £61,931 i £73,908 y flwyddyn. Llawn amser, Parhaol, Hybrid

Teitl y swydd: Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau
Rhif y swydd: FN.68354
Cyflog: Pennaeth Gwasanaeth band 3 - £61,931 i £73,908 y flwyddyn
Proffil rôl:  Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau Proffil Rôl (PDF, 161 KB)
Lleoliad: Dinas a Sir Abertawe

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd FN.68354


Dyddiad cau: 11.59pm, 3 Mawrth 2025

Mwy o wybodaeth

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig a phrofiadol i ymuno â'n tîm fel Pennaeth ein gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau. Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys Treth y Cyngor, Cyfraddau Busnes, Asesiadau Ariannol a Bilio Gofal Cymdeithasol, Taliadau Uniongyrchol, Taliadau Gofal Plant, Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor, Taliadau Tai Dewisol a Darpariaeth Lles Lleol. 
 
Byddwch hefyd yn aelod gweithgar o'r uwch dîm arweinyddiaeth Cyllid sydd â chyfrifoldeb ar y cyd am arweinyddiaeth reoli'r Gwasanaeth Cyllid, gan annog diwylliant sy'n hyrwyddo arloesedd, darparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gwerthoedd ac ymddygiad y Cyngor.

Fel Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol, rheolaeth weithredol a rheolaeth ariannol ar gyfer y maes gwasanaeth. Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, datblygu, darparu, rheoli ac arwain y gwasanaeth i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a safonau uchel o ran darparu gwasanaethau. 

Bydd eich rôl yn cynnwys diffinio cyfeiriad strategol y gwasanaeth, datblygu a gweithredu polisïau, rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid, a goruchwylio systemau perfformiad a rheoli ansawdd. 

Am fwy o wybodaeth, gweler y proffil swydd atodedig. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Ben Smith, Cyfarwyddwr Cyllid (Ben.Smith@swansea.gov.uk). 

Amdanoch chi
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd angen i chi:

  • Profiad sylweddol mewn cynllunio a darparu gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau, gyda gwybodaeth dechnegol arbenigol a phrofiad.
  • Hanes profedig o lwyddiant uwch reolwyr mewn gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o'r gweithle Refeniw a Budd-daliadau, gan gynnwys systemau, polisïau, arferion, gweithdrefnau, deddfwriaeth, a'r prif faterion a wynebir gan y gwasanaeth.
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno rhagorol, gyda'r gallu i ymgysylltu a dylanwadu ar ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol.
  • Sgiliau arweinyddiaeth cryf, gyda thystiolaeth o ddatblygu a rheoli timau amlddisgyblaethol ac ymgysylltu â staff i wella gwasanaethau.
  • Mae addysg lefel gradd neu gymwysterau proffesiynol safonol cyfatebol neu gymwysterau proffesiynol perthnasol (ee, IRRV, CIPFA) yn ddymunol.

Os ydych chi'n arweinydd rhagweithiol ac arloesol gydag ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gwybodaeth arall
Dyddiad cau:  Dydd Llun Marth 2025
Dyddiadau'r cyfweliadau: wythnos yn dechrau 24 Mawrth/31 Mawrth 2025
Math o gyfweliad / proses: Mewn canolfan asesu person

        

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Chwefror 2025