Gweithiwr Cymdeithasol x 2 (dyddiad cau: 24/02/25)
£39,513 - £43,693 y flwyddyn (Gradd 9) a £35,235 - £38,626 y flwyddyn (Gradd 8) ar gyfer cymwysterau newydd. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Anabledd Plant. Rydym yn recriwtio dau Weithiwr Cymdeithasol (1 X Parhaol ac 1 X Dros Dro am 12 mis).
Teitl swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif swydd: SS.67644-V1
Cyflog: £39,513-£43,693 y flwyddyn (Gradd 9)/ £35,235-£38,626 y flwyddyn (Gradd 8)
Disgrifiad swydd:
Gweithiwr Cymdeithasol (SS.67644-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 288 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.67644-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 24 Chwefror 2025
Mwy o wybodaeth
Yn Abertawe, credwn mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir ac amgylchedd gwaith cadarnhaol i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn ymgymryd â rôl heriol ond gwerth chweil ac yn gwerthfawrogi'r gwytnwch y maent yn ei ddangos trwy oresgyn heriau bob dydd.
Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn ein Tîm Anabledd Plant yn gyfrifol am reoli risg a chynllunio gofal ar gyfer ein plant sy'n destun cynlluniau gofal a chymorth, cynlluniau amddiffyn plant ac amlinelliad y gyfraith gyhoeddus, yn ogystal ag asesu Cymhwysedd Gillick, Galluedd Meddyliol ac Amddifadu Rhyddid gan ddefnyddio'r opsiwn lleiaf cyfyngol yn ein gwaith gyda theuluoedd, Bydd gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cefnogi gan dîm profiadol i gwblhau Asesiadau Galluedd Meddyliol, cadeirio cyfarfodydd Budd Gorau a gwneud cais am Orchmynion Amddifadu o Ryddid.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Michelle Bevan drwy Michelle.Bevan@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol