Cynorthwy-ydd Asesu (dyddiad cau: 24/02/25)
£25,584 - £26,409 y flwyddyn. Gan weithio yn Opsiynau Tai, byddwch yn rhan o dîm brwdfrydig ac ymroddedig sy'n gyfrifol am asesu a chofrestru ceisiadau ar gyfer Tai Cyngor.
Teitl swydd: Cynorthwyydd Asesu
Rhif Swydd: PL.3733-V1
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Cynorthwy-ydd Asesu (PL.3733-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 258 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.3733-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 24 Chwefror 2025
Mwy o wybodaeth
Mae Opsiynau Tai yn derbyn nifer fawr o geisiadau bob mis, byddwch yn gyfrifol am amrywiaeth o dasgau sy'n gysylltiedig â chofrestru achosion ar ein Cofrestr Tai, yn ogystal â chadw cofnodion cywir, cynhyrchu ystadegau a chadw at bolisïau a gweithdrefnau perthnasol.
Byddwch hefyd yn darparu gwasanaeth derbyn rheng flaen i gwsmeriaid yn Opsiynau Tai ac yn ateb a galwadau uniongyrchol i dimau priodol ar ein switsfwrdd prysur.
Bydd angen sgiliau cyfathrebu hyderus arnoch gan y byddwch yn cwrdd â chwsmeriaid a allai fod yn agored i niwed, sydd ag anghenion ychwanegol neu sy'n dangos ymddygiad heriol. Bydd angen i chi reoli disgwyliadau cwsmeriaid, gan ddarparu cyngor ar geisio atebion amgen mewn marchnad dai heriol.
Mae'r galw am Dai Cymdeithasol yn uwch nag erioed ac mae'r rôl hon yn cynnwys rheoli llwyth gwaith mawr gyda galw mawr gan gwsmeriaid, felly mae'r gallu i weithio mewn amgylchedd dan bwysau prysur yn hanfodol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol