Uwch Swyddog Asesu (dyddiad cau: 24/02/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Yn Opsiynau Tai, byddwch yn ymuno â thîm pwrpasol yn asesu ac yn cofrestru ceisiadau ar gyfer Tai Cyngor.
Teitl swydd: Uwch Swyddog Asesu
Rhif swydd: PL.68861-V1
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Uwch Swyddog Asesu (PL.68861-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 253 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.68861-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 24 Chwefror 2025
Mwy o wybodaeth
Mae'r rôl yn cynnwys rheoli'r Tîm Asesu, sicrhau asesiadau cyson a chywir, a rheoli achosion cymhleth sydd angen dull holistig, amlasiantaethol.
Fel Uwch Swyddog Asesu, bydd gofyn i chi gysylltu â darparwyr tai lleol eraill, mynychu cyfarfodydd, fforymau a gweithgorau amlasiantaethol yn ôl yr angen.
Byddwch yn cynorthwyo Arweinydd y Tîm Asesu yn ôl yr angen ac yn cefnogi'r Tîm Opsiynau Tai fel Uwch Swyddog.
Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu cryf a hyder i reoli derbynfa, cyfweld cleientiaid dros y ffôn, yn y swyddfa ac yn eu cartrefi. Bydd angen i chi wirio amgylchiadau cleientiaid a gwneud penderfyniadau yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014 a Pholisi Dyraniadau Abertawe 2009 (diwygiwyd 2013).
Mae'n rhaid i chi ddefnyddio gwahanol systemau TG yn hyderus, gan gynnwys cronfeydd data a thaenlenni, i gyrchu a chynnal cofnodion. Sicrhau bod data cywir yn cael ei gofnodi a threfnwch eich gwaith i gynnal safonau uchel y tîm.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol