Uwch Weithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 24/02/25)
£44,711 - £46,371 y flwyddyn. Cyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Anabledd Plant
Teitl swydd: Uwch Weithiwr Cymdeithasol
Rhif Swydd: SS.0131-V2
Cyflog: £44,711 - £46,371 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (SS.0131-V2) Disgrifiad swydd (PDF, 301 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.0131-V2
Dyddiad cau: 11.59pm, 24 Chwefror 2025
Mwy o wybodaeth
Yn Abertawe, credwn mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir ac amgylchedd gwaith cadarnhaol i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn ymgymryd â rôl heriol ond gwerth chweil ac yn gwerthfawrogi'r gwytnwch y maent yn ei ddangos trwy oresgyn heriau bob dydd.
Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn ein Tîm Anabledd Plant yn gyfrifol am reoli risg a chynllunio gofal ar gyfer ein plant sy'n destun cynlluniau gofal a chymorth, cynlluniau amddiffyn plant ac amlinelliad y gyfraith gyhoeddus, yn ogystal ag asesu Cymhwysedd Gillick, Galluedd Meddyliol ac Amddifadu Rhyddid gan ddefnyddio'r opsiwn lleiaf cyfyngol yn ein gwaith gyda theuluoedd, Bydd gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cefnogi gan dîm profiadol i gwblhau Asesiadau Galluedd Meddyliol, cadeirio cyfarfodydd Budd Gorau a gwneud cais am Orchmynion Amddifadu o Ryddid.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Michelle Bevan drwy Michelle.Bevan@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol