Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Hwb Ieuenctid x 2 (dyddiad cau: 28/02/25)

£24,790 - £25,183 pro rata y flwyddyn. (Rhan amser - 15 awr). Ydych chi'n llawn cymhelliant, yn frwdfrydig ac yn wydn, rhywun sy'n chwilio am yrfa heriol gyda phwrpas? Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc 11 - 18 oed yn Abertawe?

Teitl swydd: Gweithiwr Hwb Ieuenctid x 2
Rhif Swydd: SS.66197-V2
Cyflog: £24,790 - £25,183 pro rata y flwyddyn 
Disgrifiad swyddGweithiwr Hwb Ieuenctid (SS.66197-V2) Disgrifiad swydd (PDF, 257 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.66197-V2


Dyddiad cau: 11.59pm, 28 Chwefror 2025

Mwy o wybodaeth


Mae Gwasanaeth Pobl Ifanc Abertawe, sy'n cael ei adnabod fel Evolve, yn rhedeg rhwydwaith o 5 Hyb Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc ledled Abertawe, gyda chyfleusterau yng Ngorseinon, Stadwen, Townhill, Brynhyfryd a Blaenymaes.

Ar hyn o bryd mae gennym nifer o swyddi gwag rhan-amser (15 awr) ar draws gwahanol safleoedd, gan weithio gyda'r nos yn rheolaidd. Bydd ein hymgeiswyr delfrydol yn greadigol, yn hyderus ac yn gyfforddus wrth feithrin perthnasoedd cryf a chadarnhaol â phobl ifanc trwy ddarparu amgylchedd diogel, croesawgar a hwyliog lle byddwch yn dylunio a chyflwyno ystod o ddysgu, gweithgareddau, prosiectau a chyfleoedd ehangach anffurfiol yn y gymuned. Mae ein gwaith yn rhoi llawer o foddhad, yn heriol ac yn amrywiol.

Byddai'n fanteisiol os oes gennych brofiad blaenorol o weithio gyda phobl ifanc, p'un ai mewn lleoliad cyflogedig neu wirfoddol. 

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r cymysgedd cywir o sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymhelliant i ymuno â'n tîm gwych, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, yn enwedig os gallwch gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Darperir hyfforddiant llawn, ac mae angen datgeliad Cofnod Troseddol Uwch, gwiriad iechyd a geirda boddhaol ar gyfer y swyddi hyn.

Mae croeso i chi gysylltu â Paul Worsfold am sgwrs anffurfiol Paul.Worsfold@swansea.gov.uk neu 01792 470270.
        

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Chwefror 2025