Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Pensiynau Cynorthwyol (dyddiad cau: 03/03/25)

£25,584 - £26,409 pro rata y flwyddyn. Mae hon yn swydd dros dro cyfnod penodol tan 31/12/2025. (Rhan amser - 18.5 awr).

Teitl swydd: Swyddog Pensiynau Cynorthwyol
Rhif Swydd: FN.68448
Cyflog: £25,584 - £26,409  pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Swyddog Pensiwn Cynorthwyol (FN.68448) Disgrifiad swydd (PDF, 268 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran:
Cyllid

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd FN.68448


Dyddiad cau: 11.59pm, 3 Mawrth 2025

Mwy o wybodaeth

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd gofyn i chi ddarparu gwasanaeth gweinyddu cynhwysfawr i aelodau presennol a darpar aelodau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a'u cyflogwyr. 

Bydd angen i ymgeiswyr fod yn berchen ar y cymwyseddau canlynol: sgiliau TG, Cyfathrebu a rhifedd da.

Bydd disgwyl i chi wneud penderfyniadau sy'n briodol i lefel y swydd.

Mae hwn yn benodiad dros dro tan 31/12/2025 i gynnwys deiliad y swydd sylweddol sydd wedi'i benodi dros dro i'r Tîm Prosiect. 

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Chwefror 2025