Archifydd Sirol Cynorthwyol (dyddiad cau: 05/03/25)
£39,513 - £43,693 y flwyddyn. Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn awyddus i recriwtio archifydd profiadol, brwdfrydig a gwybodus sydd â chymwysterau proffesiynol i ymuno â thîm bach o staff proffesiynol a pharaproffesiynol.
Teitl swydd: Archifydd Sirol Cynorthwyol
Rhif Swydd: PL.3004
Cyflog: £39,513 - £43,693 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Archifydd Sirol Cynorthwyol (PL.3004) Disgrifiad swydd (PDF, 252 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.3004
Dyddiad cau: 11.59pm, 5 Mawrth 2025
Mwy o wybodaeth
Bydd gennych gymhwyster ôl-raddedig achrededig mewn Gweinyddu Archifau a bydd gennych brofiad ôl-gymhwyso cadarn ac eang o weithio mewn archifau.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli staff a rheoli prosiectau, gan sicrhau bod ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu i'r safon uchaf.
Daw'r swydd wag hon ar adeg gyffrous a heriol i'r Gwasanaeth Archifau, sydd i fod i symud i safle newydd yng nghanol dinas Abertawe yn ystod 2025. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan ganolog wrth gynllunio ac effeithio ar symud y gwasanaeth ac wrth sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau i'n cymuned.
Ar hyn o bryd mae'r swydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe, ond bydd gofyn i chi weithio yn ein man gwasanaeth yng Nghastell-nedd ar adegau.
Gwasanaeth ar y cyd i Gynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yw Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol