Arweinydd Ymarfer (dyddiad cau: 06/03/25)
£47,754 - £48,710 y flwyddyn. Ydych chi'n awyddus i ddatblygu eich gyrfa mewn gwaith cymdeithasol ac yn angerddol am wneud yr hyn sy'n bwysig i'n plant a'n pobl ifanc? Os felly, mae hwn yn gyfle gwych i chi. Ar hyn o bryd mae gan y Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal yn Abertawe swydd wag ar gyfer Arweinydd Ymarfer.
Teitl y swydd: Arweinydd Ymarfer
Rhif y swydd: SS.69655-V1
Cyflog: £47,754 - £48,710 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Disgrifiad swydd - Arweinydd Ymarfer SS.69655-V1 (PDF, 290 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.69655-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 06 Mawrth 2025
Mwy o wybodaeth
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r tîm gan ein bod wedi ehangu yn ddiweddar ac yn parhau i ddatblygu'r Tîm. Bydd angen i chi fod yn uwch weithiwr cymdeithasol profiadol a mwynhau'r cyfle i weithio mewn amgylchedd cyflym, creadigol a chefnogol. Bydd gofyn i chi rannu eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn rhwydd a chyfrannu at ddiwylliant o ddysgu a datblygu'r Tîm yn barhaus, er mwyn cyflawni'r hyn sy'n bwysig i'n plant a'n teuluoedd.
Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc 0-16 oed sydd wedi profi trawma. Rydym yn dîm o weithwyr brwdfrydig ac ymroddedig sydd am greu cysylltiadau diogel a pharhaol gyda phlant a phobl ifanc. Rydym yn ymfalchïo fel tîm wrth sicrhau ein bod yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc i ddeall eu taith bywyd a'u cefnogi i gael amser teuluol diogel gyda'r rhai sy'n bwysig iddynt.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'n tîm mewnol Maethu Cymru, Abertawe, y Tîm Teulu a Chyfeillion, asiantaethau maethu annibynnol a darparwyr preswyl i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael y gofal gorau ac yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyn iddynt ddod yn oedolion.
Fel Arweinydd Ymarfer yn y Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio a chefnogi POD o uwch weithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol a swyddogion cymorth, bydd eich rôl yn cynnwys:
- Gruchwylio Uwch Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol a Swyddogion Cymorth yn eich POD.
- Rhoi cyfeiriad a chymorth i Uwch Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol a swyddogion cymorth yn eich POD.
- Cadeirio cyfarfodydd megis cyfarfodydd strategaeth, cyfarfodydd rhwydwaith i deuluoedd, cyfarfodydd sefydlogrwydd lleoliadau.
- Hyrwyddo datblygiad Uwch Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol a Swyddogion Cymorth o fewn y Tîm
- Cynnal ac arwain ar ymchwiliadau amddiffyn plant
- Cefnogi'r rheolwr tîm i ddatblygu'r tîm a rheoli o ddydd i ddydd
- Sicrhau Ansawdd gwaith achos i gynnwys Asesiadau, Cynlluniau Gofal a Chymorth, gwaith llys
Os ydych chi'n Uwch weithiwr cymdeithasol profiadol sy'n gobeithio symud ymlaen yn eu gyrfa ac yn angerddol am weithio gyda phlant a phobl ifanc, yna dyma'ch cyfle i wneud hynny mewn tîm cefnogol ac angerddol.
Rydym yn hysbysebu am Arweinydd Ymarfer Parhaol yn ein tîm Plant sy'n Derbyn Gofal. I gael sgwrs anffurfiol am bopeth sydd gan Abertawe i'w gynnig, cysylltwch â Shahin Dorward yn Abertawe ar 01792 635180 neu drwy e-bost Shahin.Dorward@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol