Cynorthwyydd Blaen Tŷ (Rhyddhad) (dyddiad cau: 06/03/25)
£24,790 - £25,183 pro rata y flwyddyn. (Gradd 4). Mae Canolfan Dylan Thomas yn ehangu ei chronfa o staff blaen tŷ rhyddhad, ac rydym yn chwilio am bobl gyfeillgar a brwdfrydig i ymuno â'r tîm. *Ymgeiswyr mewnol yn unig*
Teitl swydd: Cynorthwyydd Blaen Tŷ (Rhyddhad)
Rhif swydd: PL.66521-V1
Cyflog: £24,790 - £25,183 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Cynorthwy-ydd blaen tŷ rhyddhad (PL.66521-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 247 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.66521-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 6 Mawrth 2025
Mwy o wybodaeth
*Ymgeiswyr mewnol yn unig*
Bydd deiliad y swydd yn hyblyg, yn ymgymryd â gweithgareddau diogelwch, glanhau, manwerthu a gofal cwsmer, a chyfrannu at ethos y Gwasanaethau Diwylliannol o ddarparu gwasanaeth cyfeillgar, addysgiadol, effeithlon a phroffesiynol i bob defnyddiwr. Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn hyderus wrth ddelio â'r ystod amrywiol o ymwelwyr rydym yn eu croesawu i Arddangosfa Dylan Thomas a rhaglenni dysgu ac ymgysylltu.
Mae hon yn rôl ryddhad, sy'n darparu yswiriant ar gyfer gwyliau, salwch ac amseroedd arbennig o brysur yn y lleoliad, a gall gynnwys gwaith penwythnos ac achlysurol gyda'r nos.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol