Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Brynhyfryd: Rheolwr Safle

(Dyddiad cau: 14/03/25 am 12pm). Parhaol, Lefel 4 (gradd 8 £35,235 - £38,626 pro rata y flwyddyn. 20 awr yr wythnos (43 wythnos y flwyddyn) sy'n cynnwys yn bennaf 4 awr y dydd 10.00am tan 2.00pm (efallai y bydd angen lefel o hyblygrwydd o ran yr oriau hyn mewn amgylchiadau eithriadol). (Bydd y cyflog a nodir yn amodol ar addasiad amser tymor yn unig os yw dechrau cyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd). Angen ar gyfer Tymor yr Haf 2025.

Mae'r swydd yn gofyn am:

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Brynhyfryd yn gofyn am Reolwr Safle brwdfrydig, trefnus a phrofiadol sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol i ymgymryd yn llawn a rheoli pob mater safle i sicrhau bod safle'r ysgol yn cael ei gynnal i safon uchel bob amser. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ac yn rheoli, pan fo'n briodol, Gofalwr Ysgol arall.

Mae Ysgol Gynradd Brynhyfryd ym Mrynhyfryd, Abertawe, tua dwy filltir i'r gogledd o ganol y ddinas. Agorodd yr ysgol ym mis Medi 2015 yn dilyn uno'r ysgolion babanod ac iau blaenorol. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol 487 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 90 yn y feithrinfa sy'n mynychu'n rhan-amser. Addysgir disgyblion mewn 17 dosbarth sengl ar ddau safle. 

Dyddiad cau:    Dydd Gwener 14 Mawrth (12.00pm)
Cyfweliadau:    Dydd Llun 26 Mawrth 2025

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Ysgol Gynradd Brynhyfryd - Rheolwr Safle - Disgrifiad swydd (PDF, 259 KB)

Ewch i wefan yr ysgol am fwy o wybodaeth am yr ysgol. Dylid dychwelyd ffurflenni i gyfeiriad yr ysgol neu anfon e-bost at Brynhyfryd.primary@swansea-edunet.gov.uk

Anogir ymgeiswyr i ffonio'r ysgol i drefnu ymweliad â'r pennaeth cyn y dyddiad cau.

Bydd unrhyw gynnig o gyflogaeth yn destun datgeliad DBS gwell a'r gwiriadau recriwtio diogel angenrheidiol sy'n cael eu gwneud. 

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Chwefror 2025