Gweithredwr Parciau Tymhorol X 6 (dyddiad cau:01/04/25)
£24,404 y flwyddyn. Dros dro am chwe mis. Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm sy'n cynnal Parciau, Mynwentydd, mannau agored, tiroedd ysgolion ac ystadau Tai y ddinas.
Teitl swydd: Gweithredwr Parciau Tymhoro X 6
Rhif Swydd: PL.68715
Cyflog: £24,404 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Gweithredwr Parciau Tymhorol (PL.68715) Disgrifiad swydd (PDF, 249 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.68715
Dyddiad cau: 11.45pm, 1 Ebrill 2025
Mwy o wybodaeth
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm sy'n cynnal Parciau, Mynwentydd, mannau agored, tiroedd ysgolion ac ystadau Tai y ddinas.
Bydd dyletswyddau'n cynnwys torri glaswellt, torri gwrychoedd, cynnal a chadw gwelyau llwyni, casglu sbwriel a marcio caeau chwaraeon.
Bydd angen i ymgeiswyr addasu o ran oriau gwaith a gallu gweithio mewn tywydd garw.
Mae trwydded yrru lawn yn ddymunol.
Gofynnir i ymgeiswyr fod â pharodrwydd i weithio dyletswyddau pêl-droed ar benwythnosau.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol