Rheoli Plâu - Warden Anifeiliaid (dyddiad cau: 07/04/25)
£31,067 - £34,314 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm brwdfrydig, hunan-gymhellol gydag ymagwedd hyblyg at eu gwaith i ymuno â'r tîm Rheoli Plâu/Warden Anifeiliaid ymroddedig.
Teitl y post: Rheoli Plâu - Gwarden Anifeiliaid
Rhif y swydd: PL.0068
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Rheoli Plâu - Gwarden Anifeiliaid (PL.0068) Disgrifiad Swydd (PDF, 250 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0068
Dyddiad cau: 11.45pm, 7 Ebrill 2025
Rhagor o wybodaeth
Bydd y swydd lawn amser parhaol yn y Tîm Rheoli Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd yn Neuadd y Dref, ond bydd y brif rôl waith allan yn y maes, gan gynnwys gwaith hwyr yn y nos a gweithio ar sail rota y tu allan i oriau.
Bydd y Swyddog Rheoli Plâu/Warden Anifeiliaid yn teithio i wahanol adeiladau yn Abertawe i archwilio'r safle, adrodd ar lefelau plâu a threfnu/ymgymryd â rhaglenni triniaeth. Yn ogystal, byddant yn cyflawni dyletswyddau sy'n gysylltiedig â rheoli cŵn ac anifeiliaid eraill sy'n crwydro eraill.
Byddai unrhyw brofiad academaidd neu ymarferol ym maes Rheoli Plâu a delio ag anifeiliaid yn fantais.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol