Rheolwr Cyswllt Cymunedol (dyddiad cau: 07/04/25)
£44,711 - £48,710 y flwyddyn. Mae'r Gwasanaeth Tai yn chwilio am Reolwr Cyswllt Cymunedol deinamig ac ymroddedig i arwain tîm i hyrwyddo cymunedau diogel, cydlynol ar ystadau Tai a safleoedd Sipsiwn Teithwyr y Cyngor.
Teitl y swydd: Rheolwr Cyswllt Cymunedol
Rhif y swydd: PL.0696-V2
Cyflog: £44,711 - £48,710 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Rheolwr Cyswllt Cymunedol (PL.0696-V2) Disgrifiad Swydd (PDF, 268 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0696-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 7 Ebrill 2025
Mwy o wybodaeth
Bydd y Rheolwr Cyswllt Cymunedol yn arwain, cefnogi ac ysgogi tîm o Swyddogion Cyswllt Cymunedol i ddarparu cymorth ac arweiniad i denantiaid a thrigolion yr effeithir arnynt gan ASB ac yn cymryd rhan ynddo. Sicrhau bod achosion yn cael eu hymchwilio mewn modd rhagweithiol ac amserol, i weithio tuag at gyflawni canlyniadau cadarnhaol a chychwyn camau gorfodi pan fo'n briodol.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at ddatblygu a gweithredu mentrau ac ymyriadau atal i hyrwyddo cynhwysiant ac ymgysylltu â'r gymuned fel bod tenantiaid a thrigolion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn eu cartrefi a'u hamgylcheddau byw.
Mae'r rôl yn gofyn am weithio ar y cyd â'r Gwasanaeth Tai Ardal, gwasanaethau tai eraill, asiantaethau partner, a gwasanaethau cymorth i gymryd dull aml-asiantaeth wrth nodi a mynd i'r afael ag ASB mewn ffordd rhagweithiol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol