Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynorthwyydd Mynediad a Gwybodaeth (dyddiad cau: 09/04/25)

£27,269 - £30,060 pro rata y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer 1 x Cynorthwyydd Mynediad a Gwybodaeth Dros Dro (18 1/2 awr) (tan 31 Mawrth 2026).

Teitl y swydd: Cynorthwyydd Mynediad a Gwybodaeth
Rhif y swydd: SS.65069-V1
Cyflog: £27,269 - £30,060 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Cynorthwyydd Mynediad a Gwybodaeth (SS.65069-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 261 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.65069-V1


Dyddiad cau: 11.45pm, 9 Ebrill 2025

Mwy o wybodaeth

Y Pwynt Mynediad Cyffredin yw'r pwynt cyswllt cyntaf o fewn Gwasanaethau Oedolion. Rôl y Cynorthwyydd Mynediad a Gwybodaeth yw darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddinasyddion Abertawe. Bydd y rôl yn cynnwys ateb galwadau ffôn ac ymholiadau e-bost/ar-lein. Gweithio mewn ffordd ataliol i arwyddo post i wasanaethau cymunedol priodol a chreu atgyfeiriadau gan ddefnyddio WCCIS.

Mae gan y Pwynt Mynediad Cyffredin hefyd Dîm Amlddisgyblaethol sy'n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Ffisiotherapyddion a Therapyddion Galwedigaethol ar hyn o bryd.

Mae'r rôl yn cynnwys gweithio gydag unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau i alluogi'r canlyniadau gorau posibl i hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol. 

Mae ein dull yn y tîm yn dilyn Egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Sy'n canolbwyntio ar weithio gyda phobl, mewn partneriaeth, i ddiwallu anghenion y cleient ac i atal problemau rhag cynyddu.

Yn Abertawe, ein nod yw darparu'r gefnogaeth gywir i Oedolion a'u Gofalwyr ar yr adeg iawn gan y person iawn.

Am drafodaeth anffurfiol neu wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Glynis Williams, Rheolwr Tîm - Glynis.Williams@swansea.gov.uk

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Mawrth 2025