Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gymunedol Dylan Thomas: Swyddog Cymorth Bugeiliol

(Dyddiad cau: 09/05/25 am 12.00 hanner dydd). Parhaol. 37 awr yr wythnos ac amser y tymor yn unig. Yn dechrau Medi 2025. Gradd 5 (£25,584 - £26,409) Cyflog cychwynnol gwirioneddol £21,983. Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad amser tymor yn unig os yw dechrau cyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd.

Mae llywodraethwyr yn ceisio penodi Swyddog Cymorth Bugeiliol brwdfrydig ac ymroddedig i'n tîm Llesiant llwyddiannus a gwerthfawr.

Mae Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn ysgol hapus a diogel lle mae anghenion pob disgybl yn cael eu darparu a'u hystyried.   Mae'r holl staff yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod hyn yn parhau.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig cefnogaeth ac adnoddau llawn yr ysgol i ddatblygu'n broffesiynol mewn amgylchedd cefnogol iawn gyda chydweithwyr ysbrydoledig a chefnogol.

Yn ein Arolygiad ym mis Chwefror 2024, dywedodd Estyn: "Mae staff yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn cynnig gofal, cymorth ac arweiniad o ansawdd cyson uchel i ddisgyblion.  Mae gan yr ysgol naws deuluol gynhwysol ac mae yna berthynas gref rhwng disgyblion a staff"

Bydd angen i ymgeiswyr fwynhau meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phobl ifanc i weithio yn yr ysgol a bydd ganddynt brofiad o weithio mewn lleoliad ysgol.  Pwrpas y swydd PSO yw cefnogi a chryfhau gwaith y tîm lles, gweithio'n agos gyda'n Penaethiaid Blwyddyn ac aelodau hŷn eraill o staff i gynyddu safonau, ymddygiad disgyblion ac agweddau tuag at ddysgu, trwy waith uniongyrchol gyda disgyblion a'u teuluoedd.  Byddwch hefyd yn gyfrifol am weithio gyda grwpiau bach i ddatblygu eu hymddygiad a'u hymgysylltiad a sicrhau canlyniadau llwyddiannus i'r disgyblion hyn.

Bydd angen i chi hefyd ymgysylltu â theuluoedd ac asiantaethau allanol i alluogi'r ysgol i weithredu dulliau adferol ac ymyriadau effeithiol i fynd i'r afael ag anghenion a nodwyd.  Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus ymroddiad i hyrwyddo dysgu a datblygiad disgyblion, ynghyd â'r gallu i ddefnyddio menter a chreadigrwydd. 

Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch.

Mae'r swydd hon yn barhaol yn destun cyfnod prawf boddhaol. Disgrifiad swydd a manyleb person ar gael gan e-mail@dylanthomas.swansea.sch.uk

Sylwch fod ceisiadau yn cael eu derbyn ar ffurflenni cais yr ysgol yn unig.

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Dyddiad cau:            Dydd Gwener 9 Mai 2025

Cyfweliadau:            Wythnos yn dechrau 19 Mai 2025

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Mawrth 2025