Arbenigwr Perfformiad - RVE & RSE (dyddiad cau: 18/04/25)
Cyflog: Soulbury 9 - 13 (+3 SPA). Arbenigwr Perfformiad - Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE)/ Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (RSE). Mae gennym gyfle cyffrous i ymarferydd ymuno â'r Tîm Gwella Ysgolion yn barhaol. Mae'r swydd hon yn gofyn am arweinydd canol cymwys a phrofiadol sydd â gweledigaeth glir o sut i gefnogi ysgolion a'u hawdurdod lleol. Dyddiad dechrau fydd 1 Medi 2025.
Teitl y swydd: Arbenigwr Perfformiad - RVE & RSE
Rhif y swydd: ED.73649
Cyflog: Soulbury 9 - 13 (+3 SPA)
Disgrifiad swydd: Arbenigwr Perfformiad - RVE & RSE (ED.73649) Disgrifiad Swydd (PDF, 252 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.73649
Dyddiad cau: 12:00 hanner dydd, 18 Ebrill 2025
Rhagor o wybodaeth
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynghori ystod eang o randdeiliaid ar draws yr awdurdod lleol (yn ôl yr angen). Bydd ganddynt ddealltwriaeth ardderchog o ddatblygiad plentyn/glasoed ac yn gwybod sut orau i ddefnyddio hyn er mwyn cefnogi dylunio/adolygu'r cwricwlwm effeithiol mewn perthynas â RSE/RVE a'r dyniaethau.
Bydd y penodwr yn gallu dangos dealltwriaeth glir ac eang o'r egwyddorion sy'n sail i Cwricwlwm Cymru a bydd yn gallu arwain ysgolion a chydweithwyr drwy ddiwygio'r cwricwlwm. Gyda ffocws ar ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, bydd y swydd hon yn gofyn am sgiliau cyflwyno rhagorol ynghyd â dealltwriaeth ardderchog o'r cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus a ddarperir gan bartneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn nodi, cynllunio a gweithredu cefnogaeth a gwelliannau effeithiol yn ôl yr angen. Bydd y penodwr yn datblygu polisïau a chynlluniau sy'n anelu at gyflawni'r amcanion a nodir yng Nghynllun Corfforaethol Abertawe.
Disgwyliadau
Fe fyddi di:
- bod yn athro cymwys ac yn meddu ar drwydded yrru lawn, ddilys;
- bod â phrofiad perthnasol o arweinyddiaeth ysgol;
- bod â lefel uchel o wybodaeth pwnc-benodol yn RSE/RVE a'r dyniaethau;
- gwybod a deall sut i gefnogi ystod o randdeiliaid mewn perthynas â darparu a chynllunio ar gyfer RSE/RVE;
- dangos ymrwymiad i athroniaeth Cwricwlwm Cymru wedi'i ategu gan arddull cyflwyno deinamig, greadigol ac arloesol;
- bod yn barod i weithio'n hyblyg o fewn y tîm i gyflawni ein hamcanion a rennir;
- bod yn arweinydd brwdfrydig, llawn cymhelliant a threfnus a fydd yn gweithio'n hyderus ar eich menter eich hun gyda phenaethiaid, athrawon a llywodraethwyr (lle bo angen);
- arwain ysgolion i gyflawni eu dyletswyddau statudol a chwarae rôl allweddol wrth arwain y strategaeth i wella ansawdd y ddarpariaeth a'r canlyniadau i ddisgyblion;
- bod yn gyfrifol am baratoi a darparu hyfforddiant ysbrydoledig o ansawdd uchel yn ganolog ac mewn lleoliadau;
- cefnogi'r Tîm Gwella Ysgolion i sicrhau gwaith ysgolion a chydweithwyr o safon;
- ymgymryd ag ymweliadau rheolaidd ag ysgolion a lleoliadau a chrynhoi'ch ymweliadau ar ffurf adroddiad;
- darparu cymorth a chyngor ar strategaethau i werthuso ansawdd addysgu a dysgu mewn ysgolion ac ar draws y tri awdurdod lleol.
- nodi arferion addysgu a dysgu effeithiol y gellir eu rhannu o fewn ac ar draws rhwydweithiau;
- gwerthuso effaith mentrau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi canlyniadau gwell i ddysgwyr mewn ysgolion ledled yr ardal;
- cael ei gefnogi'n dda gan dîm o gynghorwyr profiadol; a
- bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn y disgrifiad swydd a'r fanyleb person.;
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â David Thomas trwy e-bost David.thomas1@swansea.gov.uk or phone 07968135550
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol