Llafurwr-Gyrrwr x2 (dyddiad cau: 11/04/25)
£24,404 y flwyddyn. Mae'r adran Tenantaethau wedi'u Dodrefnu'r Gwasanaeth Tai yn gofyn am unigolyn hunan-gymhellol i yrru a dosbarthu dodrefn i gartrefi cyngor ledled Abertawe. Mae'r rôl yn brysur ac yn canolbwyntio ar y cwsmer.
Teitl y swydd: Llafurwr-Gyrrwr x2
Rhif y swydd: PL.1617
Cyflog: £24,404 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Llafurwr-Gyrrwr x2 (PL.1617) Disgrifiad swydd (PDF, 223 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.1617
Dyddiad cau: 11.45pm, 11 Ebrill 2025
Mwy o wybodaeth
Dylech fod â'r gallu i ddangos hyblygrwydd a menter a gweithio'n dda fel rhan o dîm. Byddwch allan bob dydd yn dosbarthu dodrefn i gartrefi tenantiaid newydd a hefyd yn casglu dodrefn pan nad oes angen.
Rhaid i chi feddu ar gerbyd 7.5 tunnell a thrwydded CPC gyrrwr a bod yn gymwys i yrru cerbyd o'r maint hwn.
Dylech allu dangos dealltwriaeth dda o iechyd a diogelwch a chynnal trin dodrefn a chyfarpar trwm â chymorth offer codi, darperir hyfforddiant.
Os oes gennych CPC sydd wedi dod i ben, efallai y byddwn yn gallu eich helpu i adnewyddu'r drwydded.
Mae gan y Cyngor delerau ac amodau ardderchog. Meddyliwch am ymuno â ni.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol