Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgol Gynradd Parkland : Athro Cyfleuster Addysgu Arbennig

(dyddiad cau: 08/05/25) (12hanner dydd) Mae Ysgol Gynradd Parkland yn awyddus i benodi ymarferydd o ansawdd uchel iawn sydd â'r gallu i arwain mentrau ar draws yr ysgol i ymuno â chymuned fywiog a llwyddiannus yr ysgol. Nifer ar y Gofrestr: 632 Angen athro dosbarth parhaol llawn-amser (Cyfleuster Addysgu Arbennig) ar gyfer Medi 2024 neu cyn gynted â phosibl wedyn - Lwfans Prif Raddfa Gyflog ac ADY

Parkland Primary School
Ysgol Gynradd Parkland
Pennaeth: Mrs Anne Lloyd BA, NPQH, MA
Dirprwy Bennaeth/Pennaeth Dros Dro: Miss Felicity Poole BSc; NPQH 
Dirprwy Bennaeth: Mrs Rachel Leahy

Rhodfa Parc Sgeti, Sgeti. Abertawe. SA2 8NG. Rhif ffôn (01792 205462) 
www.parkland.swansea.sch.uk  
parkland.school@swansea-edunet.gov.uk

Mae Ysgol Gynradd Parkland tua 3 milltir i'r gorllewin o ganol dinas Abertawe. Mae'n gwasanaethu ardal fawr yng Ngorllewin Abertawe, gan gynnwys Parc Sgeti, Derwen Fawr a rhannau o Sgeti. Mae'r ysgol wedi'i lleoli o fewn gerddi hardd sy'n cynnwys tair iard, dau gae ac ardal goedwig. Mae'r ysgol yn gwasanaethu poblogaeth amrywiol sy'n cynnwys cyfleuster addysgu arbenigol ar gyfer plant ag anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol o flwyddyn 3 i flwyddyn 6. 

Rhan ganolog o athroniaeth yr ysgol yw bod plant yn dysgu orau pan fyddant yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus. Mae pwyslais yn cael ei roi ar blant yn dysgu o brofiadau uniongyrchol a chael eu trochi o ran eu dysgu. Mae llais y dysgwr a hawliau plant yn hollbwysig yn Parkland ac rydym yn annog disgyblion i ddatblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb ac i ddangos ystyriaeth tuag at eraill trwy arferion adferol. Rydym yn dathlu llwyddiannau er mwyn datblygu hunanhyder, a meithrin hunaneffeithiolrwydd i ddatblygu gallu plant i'w deall eu hunain, gan effeithio ar hunanfyfyrdod a gwelliant. Mae ein hysgol yn meithrin sgiliau metawybyddol disgyblion i alluogi disgyblion i osod nodau, myfyrio ar eu dysgu, ac addasu strategaethau. Mae hyn yn hwyluso llwyddiant academaidd a thwf personol.

Mae'r corff llywodraethol yn dymuno penodi ymarferydd rhagorol, ymroddedig ac ysbrydoledig i ymuno â'n tîm hapus a gweithgar. Bydd yr athro dosbarth yn gyfrifol am ddisgyblion, rhwng 7 ac 11 oed, o fewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol yr ysgol (Bont Fawr) a bydd yn gweithio'n agos gyda disgyblion, rhwng 3 a 7 oed, sy'n derbyn darpariaeth anogaeth yr ysgol (Bont Fach), gan gefnogi'r gwaith o drefnu a rhedeg y lleoliad hwn.

Gofynnir i ymgeiswyr amlinellu eu gweledigaeth bersonol o ran addysg gynradd, eu profiadau, eu harbenigedd a'u sgiliau penodol (gan gynnwys doniau ym maes cerddoriaeth, celf, chwaraeon, dawns ac yn y blaen ac amlinellu'r safon y maen nhw wedi ei gyrraedd), a'r galluoedd a'r rhinweddau y gallent eu cynnig i'r ysgol. Mae profiad o weithio gyda phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Cod ADY yn ddymunol. 

Mae Parkland yn ysgol gynradd lwyddiannus, sydd â safonau uchel a staff sy'n dangos ymrwymiad aruthrol i'r hyn sydd orau i'r plant ac i fentrau dosbarth ac ysgol gyfan. Rhaid i ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i godi safonau a rhoi'r profiadau gorau i bob disgybl. Dyma gyfle cyffrous i chi ddod yn rhan o ysgol gynradd fywiog, ofalgar a gweithgar.

Bydd angen gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon. Mae ffurflenni cais ar gael ar: www.swansea.gov.uk drwy ddilyn y ddolen ar gyfer swyddi gwag addysgu neu o'r ysgol: 

E-bost: parkland.school@swansea-edunet.gov.uk Dylid dychwelyd y ffurflenni wedi eu cwblhau at Bennaeth yr ysgol.

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Ysgol Gynradd Parkland - Athro (Cyfleuster Addysgu Arbennig)- Disgrifiad swydd (PDF, 172 KB)

Ysgol Gynradd Parkland - Athro(Cyfleuster Addysgu Arbennig) - Manyleb Person (PDF, 151 KB)

Dyddiad cau:  Dydd Iau 8 Mai @ 12.00pm 
Llunio rhestr fer:  Dydd LLun 12 Mai  
Arsylwi ar Wersi a chraffu ar waith disgyblion:  I'w drefnu rhwng dydd Llun 19 Mai a Dydd Mawrth 20  Mai 
Taith o amgylch yr ysgol: Dydd Mawrth 6 Mai at 1.30pm 
Cyfweliadau:  Dydd Iau 22 Mai 
Dechrau yn y swydd: 1 Medi 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Ebrill 2025