Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgol Gynradd Waun Wen: Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg

(dyddiad cau: 02/05/25 am 12pm). Gradd 5 £25,584 i £26,409 y flwyddyn (pro rata). 40 wythnos - 35 awr yr wythnos. Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad amser tymor yn unig os yw dechrau cyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd.

Dirprwy Reolwr Dechrau'n Deg - Mrs Vicky Llewellyn 

Petalau Bach - Dechrau'n Deg Waun Wen 
Ysgol Gynradd Waun Wen
Stryd y Llewod, Waun Wen 
Abertawe, SA1 2BZ

Ebost: llewellynv10@hwbcymru.net 

Rhif Ffôn Dechrau'n Deg:              01792 477345 
Rhif Ffôn Cynradd Waun Wen:     01792 651010

Swydd Gweithiwr Gofal Plant llawn amser 35 awr  

Mae hon yn swydd dros dro yn amodol ar gadarnhad o gyllid a chyfnod prawf boddhaol o 3 mis.  

Mae Ysgol Gynradd Waun Wen yn ysgol gynhwysol lle mae cryfder ac angen unigol pob plentyn yn cael eu gwerthfawrogi a'u dathlu. Rydym yn gweld ein rôl yn ganolog iawn i'r gymuned leol gyda'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn helpu i gadarnhau'r rôl hon wrth i ni ymgysylltu â hyd yn oed mwy o deuluoedd a hyd yn oed plant iau. 

Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio cynnig cymorth i blant cyn-ysgol wedi'u targedu a'u teuluoedd yn Abertawe. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i blant at ofal plant o ansawdd uchel fel rhan o ddull tîm aml-asiantaeth, er mwyn gwella canlyniadau wrth baratoi ar gyfer yr ysgol a'r tymor hir.

Rydym yn edrych i benodi Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg brwdfrydig i ddod yn rhan o'n tîm ymroddedig. Bydd y swydd yn cynnwys cefnogi'r Rheolwr Gofal Plant a'r Uwch Weithiwr Gofal Plant i sicrhau bod y gofal plant a ddarperir o'r ansawdd uchaf i wella datblygiad cyffredinol ein plant.  Darperir disgrifiad swydd ar gyfer rhagor o wybodaeth. 

Mae ffurflenni cais ar gael ar wefan cyngor Abertawe, gwiriwch y cymwysterau perthnasol. Mae'r ddolen ar gyfer y fframwaith cymwysterau yn Ymarferydd Dechrau'n Deg | Gofal Cymdeithasol Cymru i gael mynediad os gwelwch yn dda cliciwch ar y dde ar y ddolen uchod ac agor hyperddolen. 

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Dychwelwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau drwy e-bost at Ddirprwy Reolwr Dechrau'n Deg Mrs Llewellyn - llewellynv10@hwbcymru.net. Os ydych chi'n dychwelyd drwy'r post, gwnewch yn siŵr eich bod yn atodi'r tâl post cywir gan y gall postio anghywir olygu nad yw'ch cais yn ein cyrraedd. 

Dyddiad cau:                          2 Mai 2025, 12pm
Rhestr fer:                               6 Mai 2025
Dyddiad Cyfweliad:               Dydd Llun 12 Mai 2025
Post i ddechrau:                     Cyn gynted â phosibl

Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn gwiriad DBS dilys a geirdaon addas.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Ebrill 2025