Arweinydd Datblygu Cyfalaf Ysgol (dyddiad cau: 21/04/25)
£44,711 - £48,710 y flwyddyn. Cyfle cyffrous a gwerth chweil i arwain a rheoli cyflawni prosiectau cyfalaf ysgolion mawr er budd ein dysgwyr, cymunedau ysgolion, a chenedlaethau'r dyfodol.
Teitl y swydd: Arweinydd Datblygu Cyfalaf Ysgol
Rhif y swydd: ED.73658
Cyflog: £44,711 - £48,710 y flwyddyn (dyfarniad cyflog yn yr arfaeth))
Disgrifiad swydd: ED.73658 Arweinydd Datblygu Cyfalaf Ysgol Disgrifiad swydd (PDF, 244 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd ED.73658
Dyddiad cau: 11.45pm, 21 Ebrill 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn dymuno penodi Arweinydd Datblygu Cyfalaf Ysgol ar gyfer ei Tîm Cyfalaf. Bydd deiliad y swydd yn ystwyth, yn gweithio gartref, neu mewn gofod gweithio ystwyth yn Neuadd y Dref yn ôl anghenion busnes, ac yn mynychu ysgolion a safleoedd pan fo angen.
Bydd deiliad y swydd yn aelod o'r Grŵp Cyflawni a bydd yn ymwneud yn fawr â chynllunio strategol y rhaglen a'r prosiectau.
Bydd ganddynt gyfrifoldeb llawn am arweinyddiaeth, rheoli, cynllunio adnoddau, a chyflawni prosiect(au) sydd wedi'u neilltuo. Yn nodweddiadol, byddant yn rheoli nifer o brosiectau ar unrhyw adeg (yn dibynnu ar faint a chymhlethdod), a gallai pob un ymestyn hyd at gyfnod o bum mlynedd. Bydd deiliad y swydd yn nodi ac yn dylanwadu ar ofynion adnoddau a rhanddeiliaid ac yn sefydlu, rheoli a chyfarwyddo timau prosiect amlddisgyblaethol ar gyfer gweithredu prosiectau sy'n mabwysiadu egwyddorion rheoli prosiectau i sicrhau cyflawni rhaglen, proffil a chyllideb.
Mae'r rôl yn gofyn am ymagwedd hyblyg at ddyletswyddau i ymgysylltu, cynghori ac arwain ar faterion sy'n ofynnol i gefnogi datblygiadau cyfalaf a strategaeth, a bydd deiliad y swydd yn gallu dangos llygad da am fanylion, gyda sgiliau arwain a rheoli rhagorol, gyda gallu i oruchwylio strategol a chryfder mewn cydweithredu ac ymgysylltu.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol