Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arbenigwr Perfformiad Sicrhau Ansawdd - STF (dyddiad cau: 08/05/25)

Soulbury 6 - 9. Cyfle Secondiad. Mae Tîm Anghenion Dysgu a Chynhwysiant Ychwanegol y Gyfarwyddiaeth Addysg (ALNIT) wedi sicrhau cyllid grant i benodi athro sydd â chymwysterau priodol i ddarparu cyngor ac arweiniad ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbenigol i sicrhau cynhwysiant a chodi canlyniadau a darpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

Teitl y swydd: Arbenigwr perfformiad sicrhau ansawdd - STF
Rhif y swydd: ED.73661
Cyflog: Soulbury 6 - 9
Disgrifiad swydd: Arbenigwr perfformiad sicrhau ansawdd - STF (ED.73661) Disgrifiad Swydd (PDF, 262 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.73661


Dyddiad cau: 11.45pm, 8 Mai 2025


Rhagor o wybodaeth

Byddai'n ofynnol i ddeiliad y swydd hefyd gefnogi'r Arbenigwr Perfformiad ADY arweiniol a chydweithwyr ALNIT eraill i gyflawni cynllun strategol Abertawe ar gyfer sefydliadau addysgol ar draws yr awdurdod. Gall y rôl hefyd gynnwys datblygu canllawiau ac adnoddau, darparu hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb a darparu cymorth rheolaidd i gyfleusterau addysgu arbenigol.

Mae'r swydd a hysbysebir uchod yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2026, felly mae'r rôl yn cael ei hysbysebu i ddechrau fel cyfle secondiad o fewn Awdurdod Lleol Abertawe. Y tu hwnt i'r dyddiad hwn, bydd parhad o'r swydd hon yn destun cyllid.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Grace Thomas: grace.thomas@swansea.gov.uk

Os hoffech wneud cais, ceisiwch gymeradwyaeth eich Pennaeth cyn cwblhau'r cais am swydd atodedig a dychwelyd i Grace erbyn y dyddiad cau isod.
  
Dyddiad cau:          Dydd Iau 8 Mai 2025

Rhestr fer:              Dydd Gwener 9 Mai 2025

Cyfweliadau:           Dydd Mawrth 20 Mai a dydd Mercher 21 Mai 2025
      
Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Ebrill 2025