Ysgol Gyfun Penyrheol : Athro STF
(dyddiad cau: 28/04/25)(3pm) Athro STF (MPS/UPS) Mae gennym gyfle cyffrous i ymarferydd gofalgar, cydwybodol a deinamig ymuno â'n tîm Cyfleuster Addysgu Arbenigol ac addysgu ym mhob un o'r tri dosbarth STF.
Ysgol Gyfun Penyrheol
Heol Pontarddulais, Gorseinon, Abertawe SA4 4FG
(Cymysg) (873 ar y gofrestr) (Ystod Oedran 11-16)
Bydd y rôl yn addysgu disgyblion yn bennaf yn y STF Cyfathrebu Cymdeithasol ag Anawsterau Dysgu, ond bydd hefyd yn cynnwys peth amser yn addysgu disgyblion yn ein STF Anawsterau Dysgu Difrifol. Os ydych chi'n credu bod gennych y cymwysterau, y wybodaeth a'r rhinweddau personol perthnasol, hoffem glywed gennych.
Mae ffurflenni cais a manylion ar gael i'w lawrlwytho o'n tudalen ar www.eteach.com. Yn ogystal, gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth o www.abertawe.gov.uk
Dylid dychwelyd ffurflenni cais i'r cyfeiriad uchod neu eu hanfon drwy e-bost at stfjobs@penyrheol-comp.swansea.sch.uk
Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)
Ysgol Gyfun Penyrheol - Athro STF Pecyn Cymraeg newydd (PDF, 984 KB)
Dyddiad Cau: 3:00pm Dydd Llun 28 Ebrill 2025
Rhestr fer: Dydd Mercher 30th Ebrill 2025
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 6ed Mai 2025
Amcan yr amserlen apwyntiadau yw hysbysu ymgeiswyr am y dyddiadau y bydd yr ysgol yn gweithio iddynt ar gyfer y swydd wag a hysbysebwyd. Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cael cynnig cyfweliad erbyn dydd Iau 1 Mai gymryd yn ganiataol nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn.
Datganiad Diogelu
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb" ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.