Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgol Gyfun Penyrheol : Cynorthwyydd Addysgu STF

(dyddiad cau: 28/04/25)(3pm) Cynorthwyydd Addysgu STF Lefel 3 (32.5 awr y flwyddyn) Gradd 5 (SCP 7-9) £25,584 - £26.409 pro rata y flwyddyn Cyflog cychwynnol: £19,373

Ysgol Gyfun Penyrheol
Heol Pontarddulais, Gorseinon, Abertawe SA4 4FG
(Cymysg) (873 ar y gofrestr) (Ystod Oedran 11-16)

Mae angen Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 brwdfrydig, gofalgar ac ymroddedig arnom i weithio yn ein STF Cyfathrebu Cymdeithasol ac Anawsterau Dysgu fel rhan o'n Tîm STF ymroddedig a meithrin. Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth sydd gennych y sgiliau a'r rhinweddau personol ar ei gyfer, cwblhewch gais.

Mae ffurflenni cais a manylion ar gael i'w lawrlwytho o'n tudalen ar www.eteach.com. Yn ogystal, gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth o www.abertawe.gov.uk

Dylid dychwelyd ffurflenni cais i'r cyfeiriad uchod neu eu hanfon drwy e-bost at tajobs@penyrheol-comp.swansea.sch.uk

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Ysgol Gyfun Penyrheol - Cynorthwyydd Addysgu STF Lefel 3 pecyn cais (PDF, 1001 KB)

Dyddiad Cau: 3:00pm Dydd Llun 28 Ebrill 2025
Rhestr fer: Dydd Mercher 30th Ebrill 2025
Cyfweliadau:Dydd Mercher 7th Mai 2025

Amcan yr amserlen apwyntiadau yw hysbysu ymgeiswyr am y dyddiadau y bydd yr ysgol yn gweithio iddynt ar gyfer y swydd wag a hysbysebwyd.  Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cael cynnig cyfweliad erbyn dydd Iau 1 Mai gymryd yn ganiataol nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn.

Datganiad Diogelu
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch 

O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb" ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Ebrill 2025