Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arbenigwr perfformiad Rhwydwaith ADY - Hyfforddiant ac ansawdd (dyddiad cau: 08/05/25)

Soulbury 6 - 9. Cyfle Secondiad ar gyfer Arbenigwr Perfformiad. Mae Tîm Anghenion Dysgu a Chynhwysiant Ychwanegol y Gyfarwyddiaeth Addysg (ALNIT) wedi sicrhau cyllid grant i benodi athro sydd â chymwysterau priodol i ddarparu cyngor ac arweiniad ar gyfer ALNCos Cynradd ac Uwchradd a Chyfleusterau Addysgu Arbenigol.

Teitl y swydd: Arbenigwr perfformiad Rhwydwaith ADY - Hyfforddiant ac ansawdd
Rhif y swydd: ED.73662
Cyflog: Soulbury 6 - 9
Disgrifiad swydd: Arbenigwr perfformiad Rhwydwaith ADY – Hyfforddiant ac ansawdd (ED.73662) Disgrifiad Swydd (PDF, 264 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd ED.73662


Dyddiad cau: 11.45pm, 8 Mai 2025

Rhagor o wybodaeth

Byddai'n ofynnol i'r deiliad swydd hefyd gefnogi'r Arbenigwr Perfformiad ADY Arweiniol a chydweithwyr ALNIT eraill trwy ddarparu cyngor i arweinwyr ysgolion a staff ar ofynion, polisïau a gweithdrefnau sy'n gysylltiedig ag ADY, gan gynnwys datblygu ac adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol (IDPs) a datblygu llwybrau cymorth ar gyfer pontio. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys y cyfle i ddylunio, darparu a gwerthuso hyfforddiant o ansawdd uchel i staff ysgol ar bynciau sy'n gysylltiedig ag ADY, gyda ffocws ar arfer gorau ar gyfer adnabod, asesu a chefnogi dysgwyr ag ADY.

Mae'r swydd a hysbysebir uchod yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2026, felly mae'r rôl yn cael ei hysbysebu i ddechrau fel cyfle secondiad o fewn Awdurdod Lleol Abertawe. Y tu hwnt i'r dyddiad hwn, bydd parhad o'r swydd hon yn destun cyllid.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Grace Thomas: grace.thomas@swansea.gov.uk.

Os hoffech wneud cais, ceisiwch gymeradwyaeth eich Pennaeth cyn cwblhau'r cais am swydd atodedig a dychwelyd i Grace erbyn y dyddiad cau isod:

Dyddiad cau:    Dydd Iau 8 Mai 2025

Rhestr fer:        Dydd Gwener 9 Mai 2025

Cyfweliadau:    Dydd Mawrth 20 Mai a dydd Mercher 21 Mai 2025

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Ebrill 2025