Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau Ysgolion (dyddiad cau: 24/04/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Cyfle gwerth chweil i arwain a rheoli cyflawni prosiectau cyfalaf ysgolion a chefnogi cyflawni prosiectau mawr er budd ein dysgwyr, cymunedau ysgolion, a chenedlaethau'r dyfodol.
Teitl y swydd: Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau Ysgol
Rhif y swydd: ED.73663
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau Ysgolion (ED.73663) Disgrifiad swydd (PDF, 223 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd ED.73663
Dyddiad cau: 11.45pm, 24 Ebrill 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn dymuno penodi Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau Ysgol
i'w Dîm Cyfalaf. Bydd deiliad y swydd yn ystwyth, yn gweithio gartref, neu mewn gofod gweithio ystwyth yn Neuadd y Dref yn ôl anghenion busnes, ac yn mynychu ysgolion a safleoedd pan fo angen.
Bydd deiliad y swydd yn aelod o'r Grŵp Cyflawni a bydd ganddo gyfrifoldeb llawn am arweinyddiaeth, rheoli, cynllunio adnoddau, a chyflawni prosiectau cyfalaf ar raddfa lai a darparu cymorth prosiect ar gyfer prosiectau mawr.
Mae'r rôl yn un amrywiol ac yn gofyn am ymagwedd hyblyg at ddyletswyddau i gynorthwyo i reoli asedau a gwella ystâd yr ysgol. Bydd deiliad y swydd yn gallu dangos llygad da am fanylion, galluoedd cynllunio a rheoli prosiect effeithiol a sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol