Cynorthwyydd Cegin (dyddiad cau:23/04/25)
£24,404 pro rata y flwyddyn. Mae Gwasanaeth Dydd Anghenion Arbennig Trewarren yn chwilio am Gynorthwyydd Cegin i weithio mewn Gwasanaeth Dydd sefydledig, 10 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener. (2 awr y dydd)
Teitl y swydd: Cynorthwyydd Cegin
Rhif y swydd: SS.4295-V1
Cyflog: £24,404 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cynorthwyydd Cegin (SS.4295-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 254 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.4295-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 23 Ebrill 2025
Rhagor o wybodaeth
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cegin i ymuno â'n tîm yng Ngwasanaeth Anghenion Arbennig Trewarren. Mae'r swydd yn cynnwys paratoi a gweini prydau canol dydd i uchafswm o bymtheg defnyddwyr gwasanaeth. Byddai hyn yn cynnwys pureeing, blending, cutting into bite size pieces in accordance with the individual service user guidelines. Ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau glanhau a chegin eraill.
Rydym yn disgwyl safonau uchel glendid, a sgiliau cadw cofnodion i fodloni gofynion deddfwriaethol a'r gallu i weithio fel rhan o dîm. Byddai hyfforddiant ar gyfer y swydd yn cael ei ddarparu, ond byddai profiad o waith cegin a Hylendid Bwyd Lefel 2 yn hanfodol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Sheridan Evans ar 01792 792160 / 785020 / 07508 010256 neu Steve Cook ar 07919 626421.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol