Arweinydd Gweithgareddau Cymorth (dyddiad cau: 30/04/25)
£24,404 y flwyddyn pro rata. Swydd lefel mynediad berffaith i unrhyw un sy'n edrych i ddechrau gyrfa mewn darparu gweithgareddau neu weithio gyda phlant a theuluoedd. Cyfoeth o hyfforddiant a datblygiad ar gael i'r ymgeiswyr cywir.
Teitl y swydd: Arweinydd Gweithgareddau Cymorth
Rhif y swydd: SS.73318
Cyflog: £24,404 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd: Arweinydd Gweithgareddau Cymorth (SS.73318) Disgrifiad swydd (PDF, 223 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd SS.73318
Dyddiad cau: 11.45pm, 30 Ebrill 2025
Mwy o wybodaeth
Rydym yn chwilio am staff brwdfrydig i gefnogi'r gwaith o gyflwyno ein rhaglenni gweithgareddau gyda phobl ifanc a theuluoedd. Mae ein gweithgareddau yn cynnwys chwaraeon antur, adeiladu tîm, adloniant a gwibdeithiau, rhaglenni addysgol, rhaglenni therapiwtig a gweithgareddau diwylliannol.
Rydym yn edrych i adeiladu tîm amrywiol gydag ystod o sgiliau a diddordebau i gyfrannu at y gwaith hwn. Ochr yn ochr â'r hyfforddiant gweithgareddau mae cyfleoedd i ddatblygu sgiliau therapiwtig.
Cyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y dyfodol mewn hamdden, addysg, hyfforddi a/neu ofal cymdeithasol/gwaith ieuenctid.
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol