Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored Rhyddhad (dyddiad cau: 30/04/25)

£27,269 - £30,060 y flwyddyn pro rata tymhorol swydd sero oriau. Mae GAC yn chwilio am hyfforddwyr cymwys i gefnogi'r gwaith o ddarparu ein rhaglenni gweithgareddau anturus i blant a theuluoedd.

Teitl y swydd: Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored Rhyddhad
Rhif y swydd: SS.61577
Cyflog: £27,269 - £30,060 y flwyddyn pro rata swydd sero-oriau tymhorol
Disgrifiad swydd: Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored Rhyddhad (SS.61577) Disgrifiad swydd (PDF, 231 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd SS.61577


Dyddiad cau: 11.45pm, 30 Ebrill 2025


Mwy o wybodaeth

Rydym yn edrych i ehangu ein cronfa cymorth o hyfforddwyr gweithgareddau antur cymwys i gefnogi ein cynlluniau twf ar gyfer y gwasanaeth dros y ddwy flynedd nesaf.  

Mae'r gweithgareddau yn cynnwys byrddio corff, syrffio, dringo, coasteering, cyfeiriannu, bushcraft ac amrywiaeth o gemau a sesiynau addysgol.

Mae'n gyfnod cyffrous yng Nghanolfannau Gweithgareddau Gŵyr, gyda llawer o brosiectau newydd ar y gorwel, ac rydym yn awyddus i gefnogi ein cronfa gymorth i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi'r cyfleoedd twf i'r ganolfan yn y dyfodol agos.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad a syniadau perthnasol i gyfrannu at y tîm, ynghyd ag angerdd gwirioneddol am botensial gweithgareddau awyr agored. 

Mae hwn yn swydd sero oriau tymhorol.  

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Ceri Butcher drwy Ceri.Butcher@swansea.gov.uk Yn y lle cyntaf. 
 

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Ebrill 2025