Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 25/04/25)

£35,235 - £38,626 y flwyddyn (Gradd 8 ar gyfer newydd gymhwyso) £39,513 - £43,693 y flwyddyn (Gradd 9). Ydych chi'n weithiwr cymdeithasol cymwys sy'n chwilio am gyfle i weithio gydag amrywiaeth eang o oedolion? Mae Cyngor Abertawe yn recriwtio ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol yn ein Tîm Cartref yn Gyntaf yn bennaf yn Ysbytai Treforys, Singleton, Gorseinon a Chastell-nedd Port Talbot.

Teitl swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif swydd: SS.66055-V1
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn (Gradd 8 ar gyfer newydd gymhwyso) £39,513 - £43,693 y flwyddyn (Gradd 9)
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Gweithiwr Cymdeithasol SS.66055-V1 (PDF, 257 KB) 
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.66055-V1

Dyddiad cau: 11.59pm, 25 Ebrill 2025

Mwy o wybodaeth
 
Mae hwn yn gyfle prin a chyffrous i ymuno â thîm sydd wedi'i hen sefydlu ac sy'n cael ei gefnogi gan gynnig cymorth rhagorol gan gymheiriaid a rheolwyr mewn amgylchedd cynhwysol. 
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer 1 Gweithiwr Cymdeithasol llawn amser. Bydd angen cymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig arnoch a bod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ynglŷn â'r rôl

Mae gwaith cymdeithasol ysbytai yn eang iawn, mae ein tîm yn gweithio gydag oedolion 18+ oed sydd ar eu mwyaf agored i niwed, efallai yn fregus ac yn sâl neu wedi cael digwyddiad trychinebus sy'n arwain at newid enfawr mewn galluoedd neu wedi profi camdriniaeth/trawma neu anafiadau i'r ymennydd. Mae'r tîm yn gweithio gydag unigolion i'w cefnogi a'u galluogi i gael eu rhyddhau cyn gynted ag y byddant wedi gwella, i fyw'n dda ac mor annibynnol â phosibl. 

Mae'r tîm wedi'i leoli mewn swyddfa yn yr ysbytai ac yn treulio llawer o amser ar y wardiau gyda chleifion a chydweithwyr yn ogystal ag yn y gymuned mewn unedau ailalluogi gwely, cartrefi gofal a chartrefi pobl eu hunain. Gan weithio'n agos gyda'r Tîm Amlddisgyblaethol (MDT) sy'n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, nyrsys Cyswllt Rhyddhau, OT, Ffisio, Nyrsys Ward ac ati a sefydliadau eraill, byddwch yn defnyddio'r model 'rhyddhau i adfer ac asesu', ar gyfer dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn tuag at waith achos cymhleth. 

Nod y model Rhyddhau i Adfer ac Asesu yw lleihau asesiadau yn y lleoliad acíwt a symud pobl i lwybr ailalluogi neu asesu pan fo hynny'n bosibl. Mae hyn hefyd yn golygu na ddylai pobl fod yn gwneud penderfyniadau am ddarpariaeth gofal hirdymor tra'n dal yn yr ysbyty. Bydd y tîm felly'n gweld rhai pobl ar ôl cael eu rhyddhau gartref neu mewn lleoliad ailalluogi neu gartref gofal i ddod ag asesiadau i ben.
Byddwch yn rhan o dîm sy'n aml yn gweithio mewn sefyllfaoedd heriol ac anodd ond eto'n cefnogi eich gilydd drwyddi draw i gael canlyniadau cadarnhaol i bawb dan sylw. 

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

Rydym yn dîm profiadol a sefydledig iawn sy'n gyfeillgar, yn gefnogol, ac yn fwyaf croesawgar. Byddwch yn derbyn dull strwythuredig o hyfforddi fel rhan o'ch rôl, ymrwymiad i ddysgu, llwybr gyrfa, a mentora a chymorth i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.  Rydym wedi ymrwymo i'ch datblygiad proffesiynol, a'ch lles trwy oruchwyliaeth reolaidd.

Trwy ymuno â'n tîm, rydym am i chi fod yn falch o'ch cyflawniadau, ac yn falch o wneud gwahaniaeth i unigolion rydych chi'n gweithio gyda nhw.
 
Mae manteision eraill o weithio gyda ni yn cynnwys: 

  •  Cyflog cystadleuol 
  •  Gweithio hybrid 
  •  Lwfans gwyliau hael  
  •  Trefniadau gweithio hyblyg 
  •  Pensiwn ardderchog gyda'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 
  •  Mynediad i'r cynllun Beicio i'r Gwaith 
  •  Gostyngiadau staff 
  •  Canolfan hamdden gostyngol ac aelodaeth o'r gampfa 

Bydd gofyn i bob gweithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso (NQ) gymryd rhan mewn Cynllun Blwyddyn Gyntaf mewn Ymarfer sy'n seiliedig ar ganllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru.  Mae hefyd yn orfodol i Weithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso ar ddiwedd eu Blwyddyn Gyntaf mewn Ymarfer, gofrestru ar gyfer cymhwyster priodol mewn Cydgrynhoi Ymarfer Gwaith Cymdeithasol a chyflawni'r cymhwyster hwn o fewn y cyfnod cofrestru cyntaf fel Gweithiwr Cymdeithasol.  Fel Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, byddwch yn cael eich talu ar Radd 8, hyd nes y cyflawnir y gofyniad hwn.

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus lenwi ffurflen gais lawn fel rhan o'n proses recriwtio. Ydych chi eisiau gofyn cwestiwn i ni? Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Amanda George Amanda.george@swansea.gov.uk am ragor o wybodaeth.  
        

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.


 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2025