Cydlynydd Dynodedig ADY yr Awdurdod Lleol (dyddiad cau: 28/04/25)
£39,513 - 43,693 y flwyddyn. Cytundeb dros dro (Cyd-drefnydd Dynodedig Awdurdod Lleol CDALl): Cytundeb tan 31 Mawrth 2026 yn y lle cyntaf. Gellir ystyried cais am secondiad ond bydd angen cymeradwyaeth y pennaeth/rheolwr cyn cyflwyno cais.
Teitl y swydd: Cydlynydd Dynodedig ADY yr Awdurdod Lleol
Rhif y swydd: ED.73666
Cyflog: £39,513 - 43,693 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Cydlynydd Dynodedig ADY yr Awdurdod Lleol ED.73666 (PDF, 430 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Adnoddau
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.73666
Dyddiad cau: 11.45pm, 28 Ebrill 2025
Mwy o wybodaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant y Gyfarwyddiaeth Addysg (ALNIT) ar gyfer unigolyn hynod drefnus, brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant sy'n angerddol am gyflwyno deilliannau o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gydlynu'r camau gweithredu sydd eu hangen i baratoi a chynnal Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Bydd gofyn i chi ddilyn dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth weithio ar y cyd â phlant, pobl ifanc, eu rhieni a'u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynllun yn cael ei greu gyda deilliannau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rydym yn chwilio am berson sydd â safonau llythrennedd rhagorol, sy'n gallu gweithio'n hyblyg, sy'n gallu rheoli ffrydiau gwaith cymhleth ar yr un pryd ac sy'n gallu bodloni terfynau amser tynn. Disgwyliwn i ymgeiswyr feddu ar wybodaeth dda am ADY a'r Ddeddf ADY a'r goblygiadau i ysgolion, plant a phobl ifanc a'u teuluoedd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys amrywiaeth o ymarferwyr proffesiynol medrus ac angerddol gan gynnwys Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (EYALNLO), Cydlynydd Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal (LAC), arbenigwyr perfformiad ac athrawon cymorth dysgu ymhlith eraill.
Mae'r swydd hon yn gyfle secondiad i unigolyn sydd â dealltwriaeth o ADY a'r Ddeddf ADY i weithio yn y maes hwn o i 31 Mawrth 2026. I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Joanne Edwards (Arweinydd DESCO) joanne.edwards@swansea.gov.uk neu Fraser Newbury (Uwch Arweinydd ar gyfer ADY), fraser.newbury@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.