Swyddog Cymorth Crwner (dyddiad cau:01/05/25)
£27,269 - £30,060 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am benodi swyddog Cymorth Crwner o fewn y tîm Crwnerion. Mae'r swydd yn cynnwys darparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel i'r crwner a fydd yn cynnwys cynorthwyo'r Crwner, y Crwner Cynorthwyol a'r Rheolwr Achos gyda'r holl ofynion gweinyddu cwest.
Teitl y swydd: Swyddog Cymorth Crwner
Rhif y swydd: CS.68026
Cyflog: £27,269 - £30,060 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cymorth Crwner (CS.68026) Disgrifiad Swydd (PDF, 257 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.68026
Dyddiad cau: 11.45pm, 1 Mai 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys trefnu a rheoli systemau swyddfa gan gynnwys sefydlu Cwestau, cynnal cyfarfodydd rhithwir trwy Microsoft TEAMS, gweithredu'r System Rheoli Achosion; trefnu dyddiaduron llys a phrosesu gorchmynion ac anfonebau.
Rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad profedig o ddyletswyddau gweinyddol cyffredinol, gweithio i ddyddiadau cau a rhaid iddynt feddu ar sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol. Dylent fod yn gyfforddus yn ateb galwadau ffôn a chysylltu â chwsmeriaid mewnol ac allanol yn ogystal â theuluoedd mewn profedigaeth.
Rhaid i ymgeiswyr fod â'r gallu i ddefnyddio ystod o Becynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel. Byddai profiad o'r broses Gorchymyn Prynu ac Anfonebau ar Fusion yn fantais amlwg.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol